Betsi Cadwaladr University Health Board’s Post

Mae'r radd Fferylliaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei chymeradwyo, ac mae disgwyl i fyfyrwyr ddechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi 2025. Bydd y rhaglen hon yn diwallu anghenion lleol a chenedlaethol a bydd yn sicrhau bod gan Ogledd Cymru sylfaen gadarn ar gyfer addysg ac ymchwil ym maes fferylliaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod anghenion cleifion a darpar fyfyrwyr yn cael eu diwallu yn y dyfodol. Rydym yn hynod falch am y newyddion positif yma i Ogledd Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i gefnogi'r rhaglen. Mae gennym gyfle bellach i fuddsoddi'n lleol mewn hyfforddi fferyllwyr yng Ngogledd Cymru ac i ddatblygu'r gweithlu clinigol medrus sydd ei angen arnom ni, a'r GIG ehangach, yn y dyfodol. Dolen i’r datganiad llawn i’r wasg ar gael yn y sylwadau

  • No alternative text description for this image

To view or add a comment, sign in

Explore topics