llaeth
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ɬaːɨ̯θ/
- yn y De: /ɬai̯θ/
- ar lafar: /ɬaːθ/
Geirdarddiad
Benthyciad o'r Lladin lactem. Cymharer â'r Gernyweg leth, y Llydaweg laezh a'r Hen Wyddeleg lacht.
Enw
llaeth g (lluosog: lleithion, llaethau)
- (llaetheg) Hylif gwyn a gynhyrchir gan chwarennau bronnol er mwyn maethu'r rhai bychain. Fel diod, cyfeiria'n aml at y llaeth buwch neu afr.
- Mae babanod yn yfed llaeth am ei fod yn eu cryfhau.
Cyfystyron
Homoffonau
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: llaetha, llaethedd, llaetheg, llaethig, llaethog, llaethol, llaethu, llaethwr, llaethyddol
- cyfansoddeiriau: amlaethai, llaethberllys, llaethbys, llaethdy, llaethferch, llaethlys, llaethogrwydd, llaethwraig, llaethwydd, llaethwyg, llaethwyn, ysgytlaeth
- llaeth anwedd
- llaeth cyddwys
- llaeth enwyn
- llaeth glas
- llaeth magnesia
- llaeth pasteureiddiedig
- llaeth powdwr
- llaeth posel
- llaeth sgim
- llaeth tor
- llaeth wedi'i ddiheintio
Cyfieithiadau
|
|