Neidio i'r cynnwys

cnewyllyn

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /knɛu̯.ˈəɬɨ̞n/
  • yn y De: /knɛu̯.ˈəɬɪn/

Geirdarddiad

Ffurf unigolynnol cnewyll o’r Frythoneg *knowil(l)os ‘cneuen fach’, bachigyn yr enw *know ‘cneuen’; gw. cneuen.

Enw

cnewyllyn g (lluosog: cnewyll)

  1. Y craidd; y rhan ganolog o rywbeth, gyda phethau eraill wedi ymgasglu o’i amgylch.
  2. Gronyn neu hedyn, fel o laswelltau ŷd, wedi’i amgáu mewn cibyn neu eisinyn.
  3. Bywyn meddal bwytadwy’r tu mewn i blisg cnau, cerrig mewn ffrwythau.
  4. (sytoleg) Organyn crwn neu hirgrwn pilennog sy’n cynnwys cromosomau ac yn rheoli metaboledd y gell, ei thwf a’i atgenhedlu.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau