108
COFIANT
yn ymdaenu drosti, a chredai hi a ninau fod awr ei
hymddatodiad wedi dyfod. Galwodd ar y nurse,
a pharodd iddi ryddhau ei dillad, a dywedodd,
"Rhoddwch chwareu teg i angeu yn awr
Dyma'r adeg am y xliii. o Esaiah; a wnewch
chwi," meddai wrth ei phriod, "ddarllen y rhan
gyntaf ?" ond pan welodd fod ei deimladau Ju ei
orchfygu nes methu, hi a'i hadroddodd ei hun
mewn llais adnewyddol; "Pan elych trwy y dyfr-
oedd myfi a fyddaf gyda thi, a thrwy yr afonydd,
fel na lifant drosot. Pan rodiech trwy y tân, ni'th
losgir, ac ni enyn y fllam arnat." "Y mae yn insult
iddo beidio credu ei air." Teimlai ei hnn mor
gysurus nes bod arni awydd canu, a dymunodd
arnaf ganu yr hen hymn :-
"Rwy'n gweled bob dydd, mai gwerthfawr yw ffydd,
Pan elwy'i borth angeu fy angor a fydd;
Fe dreiodd rhai hon yn wyneb y dòn,
Maent heddyw yn canu yn iach ger ei fron."
Teimlai ei hun mor ddigynhwrf, fel yr oedd
ganddi hamdden i feddwl a rhagbarotoi ar gyfer yr
adeg dorcalonus a ddylynai ei hymadawiad. Parodd
ddanfon i gyrchu dau o'r cyfeillion, "Canys,"
meddai, "byddwch yn unig iawn yn y tý heb neb
o'r brodyr crefyddol gerllaw." Yn mhen tua dwy
awr adfywiodd gryn lawer, a chymerodd yr ym-
ddyddan canlynol le:-"Mi dybíais, anwyl Mary,
eich bod yn myned i'n gadael just yrwan."" "Oedd-
ech chwi yn foddlon?" meddai. "Oeddwn yn
foddlon i ymostwng i ewyllys yr Arglwydd.
Oeddech chwi yn foddlon ?" Atebai gyda gwên
siriol, "O, ydwyf er's llawer dydd bellach; 'doedd
arnaf fi ofn dim ond ofn i gymylau ddyfod dros fy
ngobaith yn y glyn; y mae yn ddigon goleu yr
ochr draw."
Ni feddyliodd, hwyrach, pan yn cyfansoddi y
llinellau canlynol, dan dywyniad pelydryn go gryf
Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/130
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto