Wikiquote:Egin
Mae'r dudalen hon yn ganllaw amdano Wiciquote. Mae'n sôn am safonau ymddygiad y mae nifer o olygwyr yn cytuno â mewn egwyddor, ond nid yw'n bolisi. Mae croeso i chi ddiweddaru'r dudalen, ond trafodwch newidiadau mawrion ar y dudalen sgwrs yn gyntaf os gwelwch yn dda. |
Fel mae'r enw'n awgrymu, erthyglau sydd â llond dwrn o ddyfyniadau'n unig yw eginau'. Mae'r erthyglau hyn wedi cael eu creu, ond nid ydynt yn cynnwys digon o wybodaeth iddynt gael eu hystyried yn "erthyglau" neu'n gasgliadau o erthyglau. Fodd bynnag, cred cymuned Wiciquote fod gwerth i'r eginau hyn; mewn gwrionedd, dyma yw'r cam cyntaf wrth i erthygl ddechrau ar eu cwrs i fod yn gyflawn.
Adnabod eginyn
[golygu]Erthygl sy'n rhy fyr i fod yn erthygl gwirioneddol ddefnyddiol, ond sydd ddim mor fyr fel ei fod yn ddiwerth. Yn gyffredinol, dylai gynnwys o leiaf un dyfyniad, a dylai gynnwys peth gwybodaeth gefndirol am deitl yr erthygl (boed yn ddolen i Wicipedia, 2-3 brawddeg o gyflwyniad a.y.b.). Os nad oes gan erthygl o leiaf un dyfyniad, dylid ystyried ei dileu ar frys neu dylid defnyddio dilead cyffredin. Os nad oes gan erthygl wybodaeth gefndirol neu ddolen i Wicipedia, yn enwedig ar ôl cyfnod hir, gellir enwebu'r erthygl honno i gael ei dileu.
Categoreiddio eginau
[golygu]Ar ôl ysgrifennu neu dod o hyd eginyn, dylai'r golygydd osod yr hyn a elwir yn nodyn egin ar y dudalen, sy'n ei gwneud yn bosib i'r erthygl gael ei ddangos fel eginyn. Yn ôl confensiwn, mae'r nodiadau egin hyn yn cael eu gosod yn agos i grig yr erthygl. (Os oes gan erthygl baragraff disgrifiadol byr, mae gosod tag yn union ar ôl hyn yn ddefnyddiol ac mae'n edrych yn daclus)
Mae nodiadau egin yn cynnwys dwy ran benodol: yn gyntaf, ceir neges fer yn nodi fod yr erthygl yn eginyn o fath penodol ac yn annog golygwyr i ychwanegu ato; yn yr ail ran, ceir dolen gategori, sy'n rhoi'r erthygl ar gategori eginyn, ynghyd eg eginynau eraill am yr un pwnc.
Cododdd yr angen am gategorïau egin pan ddaeth y prif gategori egin —Categori:Egin Wiciquote—mor llawn nes ei fod yn anodd dod o hyd i erthyglau am bwnc penodol. Gyda chategorïau egin, os yw'r golygydd er enghraifft, yn hoffi teledu, gall ef neu hi chwilio am erthyglau gyda'r tag Nodyn:Tl yn y categori Categori:Eginyn teledu gan ddod o hyd i eginau i'w golygu'n hawdd.
Yn gyffredinol, y confensiynnau enwi ar gyfer nodiadau eginau yw Eginyn-pwnc; am restr gyflawn o'r nodiadau hyn, gweler y rhestr eginau. Pan yn nodi fod erthyglau'n eginau, sicrhewch eich bod mor union a chywir a phosib os gwelwch yn dda—mae'n arben llawer o waith i olygwyr eraill yn hwyrach. Os yw erthygl yn gorgyffwrdd a dau gategori posib, gellir defnyddio dau nodyn egin gwahanol, ond fe'ch annogir i beidio a defnyddioo mwy na dau ohonynt.
Eginyn erthygl delfrydol
[golygu]Pan fyddwch yn ysgrifennu eginyn erthygl, cofiwch mai ei prof bwrpas yw ei ehangu, ac felly dylai gynnwys digon o wybodaeth i alluogi golygwyr eraill i ychwanegu ato. O ddewis, dylai fod gan eich erthygl erthygl cyfatebol ar Wicipedia. (Gallwch greu eginyn Wicipedia eich hun; gweler Nodyn:W am ganllawiau ar eginau Wicipedia.) Yn y naill achos neu'r llall, mae cyflwyniad byr yn ddefnyddiol, ac fe argymhellir yn gryf os nad oes erthygl Wicipedia amdano. Gellir gwneud eich ymchwil cychwynnol naill ai drwy lyfrau neu drwy beiriant chwilio dibynadwy megis Yahoo! neu Google. Gallwch gyfrannu gwybodaeth sydd gennych o ffynonnellau eraill hefyd, ond mae'n ddefnyddiol i gynnal rhyw faint o ymchwil cyn bwrw ati.
Yna, dylech ddod o hyd i o leiaf un dyfyniad. Dyfyniadau gyda ffynhonnell (y rheiny sydd a chyfeiriad penodol, gwiriadwy) sydd orau, ond derbynir dyfyniadau a briodolir yn gyffredinol hefyd, cyn belled ag eu bod yn cael eu dynodi'n glir fel "dyfyniadau wedi'u priodoli". Er fod y neges eginyn yn rhoi'r erthygl i mewn i gategori eginyn, fe'ch annogir yn gryf i roi'r erthygl i mewn i gategori cyffredin hefyd; gweler Categori:Categorïau.
Un ffynhonnell ar gyfer dyfyniadau defnyddiol, yn enwedig o ran gweithiau llenyddol, yw gwaith cysylltiedig gan bobl eraill. Mwy na thebyg, os yw un awdur wedi darganfod rhywbeth sy'n werth ei ddyfynnu, yna mae mwy na thebyg yn ddeunydd da ar gyfer Wiciquote hefyd, a gallai hyn eich cynorthwyo wrth ddod o hyd i'r ffynhonnell wreiddiol. (Dechreuodd nifer helaeth o erthyglau Wiciquote yn y ffordd hyn.) Efallai yr hoffech edrych ar adolygiadau, crynodebau neu fywgraffiadau am eich pwnc er mwyn dod o hyd i wybodaeth berthnasol; gallai deunydd o'r ffynonnellau hyn eich helpu i ddechrau adran "Amdano" neu "Feirniadaeth". (Mwy na thebyg dylech osgoi defnyddio casgliadau eraill o ddyfyniadau, fodd bynnag, oni bai eich bod yn barod ac yn fodlon i dracio'r ffynhonnell wreiddiol; weithiau mae gan cyhoeddiadau o'r fath gyfeiriadau anghywir neu annigonol.)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'r erthygl, mae yna nifer o lwybrau y gallai ddilyn. Gallai golygydd arall gymryd diddordeb ynddo a'i ddatblygu ymhellach, neu gallwch chi eich hun ei ddatblygu pan fyddwch yn dod o hyd i fwy o ddyfyniadau sy'n ymwneud â'r pwnc neu efallai pan fydd mwy o amser rhydd gennych.
Dod o hyd i eginau
[golygu]- Categori:Eginau Wiciquote y prif restr o gategorïau eginau a'r erthyglau a geir ynddynt
- Special:Shortpages