Neidio i'r cynnwys

Zak Carr

Oddi ar Wicipedia
Zak Carr
Ganwyd6 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 2005 Edit this on Wikidata
Norfolk Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Seiclwr cystadleuol o Loegr oedd Zak Carr (6 Mawrth 197517 Hydref 2005).[1] Ganwyd ef yn Norwich, Norfolk. Pan nad oedd yn ymarfer neu'n rasio roedd yn gweithio fel Swyddog Carchar, roedd yn byw yn Attleborough. Dechreuodd seiclo yn 14 oed gan ymuno â'i glwb lleol, CC Breckland.[2]

Roedd Carr yn dal recordiau Prydeinig mewn pellterau hir a byr, cystadlodd yn yr Iseldiroedd ym Mhencampwriaethau Ewrop ychydig cyn ei farwolaeth. Bu'n reidio tandem fel peilot ar gyfer reidwyr gydag anabledd, roedd yn debygol y buasai wedi cystadlu ar y tandem yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.[3]

Yn 2003, enwebwyd ef ar gyfer gwobrau chwaraeon "BBC Norfolk Sport".[2]

Bu farw yn Ysbyty Prifysgol Norwich ar ôl cael ei daro gan gar tra'n reidio ei feic ar yr A11 ger Wymondham. Carcharwyd y gyrrwr a'i darodd yn mis Ionawr 2007 am bum mlynedd.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.