Yves Congar
Yves Congar | |
---|---|
Ffugenw | R. Obert |
Ganwyd | 13 Ebrill 1904 Sedan |
Bu farw | 22 Mehefin 1995 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, llenor, dyddiadurwr, offeiriad Catholig, diacon, ffrier |
Swydd | cardinal-diacon |
Gwobr/au | Broquette-Gonin prize, Gwobrau Montyon |
Offeiriad Dominicaidd a diwinydd Catholig o Ffrainc oedd Yves Marie-Joseph Congar (13 Ebrill 1904 – 22 Mehefin 1995). Fe'i nodir am ei waith ar eglwyseg ac eciwmeniaeth. Cafodd ddylanwad cryf ar Ail Gyngor y Fatican, a fe'i ystyrir yn un o ddiwinyddion Catholig pwysicaf yr 20g.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Sedan, Ardennes, yng ngogledd ddwyrain Ffrainc. Astudiodd yng ngholeg diwinyddol Reims (1919–21) a'r Institut Catholique de Paris (1921–24) cyn iddo benderfynu ymuno ag Urdd y Dominiciaid. Gwasanaethodd yn y fyddin am flwyddyn cyn iddo ddechrau ei nofyddiaeth yn Amiens ym 1925, a chafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1930.[1] Aeth i astudfa'r Dominiciaid yn Le Saulchoir yng Ngwlad Belg, ac yno fe weithiodd dan ddylanwad Marie-Dominique Chenu. Cyhoeddodd ei waith Chretiens Desunis ("Cristionogaeth Ymranedig") ym 1937, ac ynddo ymgeisiai egluro hanes anundod yr Eglwys a chyflwynai'i gynigion am y dyfodol.[2] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Congar ei alw i'r fyddin i fod yn gaplan. Cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr ym 1940, a threuliodd pum mlynedd mewn gwersylloedd carcharorion rhyfel, gan gynnwys Colditz a Lübeck.[1]
Wedi'r rhyfel, cafodd waith Congar ei amau gan awdurdodau'r Eglwys Gatholig. Fe'i gwaharddwyd rhag cyhoeddi erthygl ar eciwmeniaeth ym 1947, a chafodd ei ddiswyddo o'i waith fel athro ym 1954 a'i ddanfon i'r École Biblique yn Jeriwsalem. Yno, fe ysgrifennodd Le Mystere du Temple ("Dirgelwch y Deml"), ond nid oedd yn hoff o'i gyfnod alltud. Yn ddiweddarach, fe symudodd i Rufain ac yna i dŷ'r Dominiciaid yng Nghaergrawnt ond parhaodd dan lygad gwyliadwrus yr Eglwys. Cafodd ei orchymyn i gadw draw rhag cysylltu ag Anglicaniaid ac i gadw'n dawel ar faterion eciwmenaidd. Cafodd ei wahardd hyd yn oed rhag mynediad i briordy'r Dominiciaid yn Blackfriars, Rhydychen.[2] Cafodd ei symud ymlaen i Strasbwrg cyn i'w alltudiaeth dod i ben ym 1960, pryd gafodd ei benodi'n ymgynghorydd i gomisiwn paratoi Ail Gyngor y Fatican (1962–65). Roedd Congar yn weithgar iawn wrth lunio sawl un o ddogfennau'r Cyngor.[1]
Ysgrifennodd Congar mwy na 30 o lyfrau trwy gydol ei oes, ac roedd yn weithgar iawn hyd ei flynyddoedd olaf. Gan gynnwys erthyglau academaidd a phoblogaidd a chyhoeddiadau a olygwyd ganddo, amcangyfrifir iddo ysgrifennu rhyw 1,800 o weithiau. Cafodd ddiagnosis o sglerosis ym 1935, a gwaethygodd yr afiechyd wrth iddo heneiddio.[1] Erbyn 1984 roedd Congar yn sâl iawn, a symudodd i fyw ei flynyddoedd olaf yn yr Hôtel des Invalides. Cafodd ei benodi'n gardinal ym 1994 gan y Pab Ioan Pawl II. Bu farw ym Mharis yn 91 oed.[2]
Ei ddiwinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ymgeisiodd Congar i ddatblygu diwinyddiaeth eglwysig i ddangos "gwir wyneb fyw" yr Eglwys. Canolbwyntiodd ei waith yn bennaf ar eciwmeniaeth ac ymchwil hanesyddol ym maes diwinyddiaeth. Pwysleisiodd taw corff Crist yw'r Eglwys, a bod angen adnewyddu diwinyddiaeth y offeiriadaeth, pwysigrwydd y lleygwyr, a'r genhadaeth fydol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Yves Congar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ebrill 2018.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Brian Davies, "Obituary:Cardinal Yves Congar", The Independent (30 Mehefin 1995). Adalwyd ar 20 Ebrill 2018.