Ystâd y Goron yng Nghymru
Cynghorau sir sy'n galw am drosglwyddo Ystâd y Goron o reolaeth Llundain i Gymru | |
Enghraifft o'r canlynol | corff statudol |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth | Cymru |
Mae Ystâd y Goron Cymru ar hyn o bryd yn rhan o Ystâd y Goron y Deyrnas Unedig (DU). Rheolir yr ystâd gan gomisiynwyr Ystâd y Goron yn Llundain ac mae'r pwerau llywodraethol drosti gan Lywodraeth y DU ac nid gan Lywodraeth Cymru.
Yn wahanol i Ystâd y Goron yr Alban, nid yw'r ystâd wedi'i datganoli yng Nghymru ac yn 2024 roedd yn werth £753 miliwn. Erbyn Rhagfyr 2024 roedd chwech o siroedd Cymru wedi pleidleisio dros drosglwyddo tiroedd ac arian Ystâd y Goron o Loegr i Gymru. Mae'r ymgyrch dros reolaeth lawn i Gymru'n cael ei harwain gan YesCymru a Siarter Cartrefi.
Perchnogaeth
[golygu | golygu cod]Er fod yr ystâd yn perthyn i Frehiniaeth Lloegr, nid yw'n eiddo preifat y Frenhiniaeth, ond mae Brenin Lloegr yn derbyn cyfran o'r elw. Nid yw'n perthyn chwaith i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Ystâd y Goron yn cael ei reoli gan Gomisiynwyr Ystâd y Goron ac mae'r ystâd yn ymddwyn fel landlord ar gyfer datblygu gwely'r môr.[1][2]
Portffolio
[golygu | golygu cod]Mae Ystâd y Goron Cymru yn cynnwys gwely'r môr, yr arfordir hyd at 12 môr-filltir, tua 65% o flaendraeth yn ogystal a gwely afonydd Cymru a phorthladdoedd a marinas.[1] Mae'r ystâd hefyd yn berchen dros 50,000 o erwau o ucheldiroedd a thir comin Cymreig, sef tir pori garw yn bennaf. Mae dyfroedd o amgylch Cymru yn cynnig cyfle sylweddol i Gymru arwain y newid i sero net yn ôl Ystâ y Goron.[3]
Mae prosiectau llanw amrywiol yn rhan o Ystâd y Goron yng Nghymru gan gynnwys y prosiect arfaethedig "Awel y Môr", Prosiect Erebus 100MW Profi ac Arddangos, ac roedd tri phrosiect 100M yn cael eu hasesu yn 2022.[4] Mae Ystâd y Goron hefyd yn buddsoddi £31m ym mhrosiect llanw Morlais.[5]
Mewn crynodeb, mae'r ystad yn berchen ar:
- 65% o draethlin a gwelyau afonydd
- Gwely'r môr allan i 12 milltir forol
- Mwy na 50,000 erw (20,230 hectar) o dir
- 250,000 erw (101170 hectar) o ddyddodion mwynau
- Hawliau i aur ac arian - y "Mwynglawdd Brenhinol"[6]
Gwerth a refeniw
[golygu | golygu cod]Mae gwerth Ystad y Goron Cymru wedi codi o £49.2m yn 2020 i £549.1m yn 2021, ac yna i £603m yn 2022.[7] Refeniw Ystâd y Goron Cymru yn 2021 oedd £8.7m.[8] O refeniw Ystâd y Goron, mae 75% yn mynd i drysorlys y Deyrnas Gyfunol (DG) ac mae 25% yn mynd i frenin y DG Lloegr.[9]
2023
[golygu | golygu cod]Yn 2023, datgelodd gais Rhyddid Gwybodaeth werth asedau Ystad y Goron yng Nghymru ym mlwyddyn ariannol 2022 – 2023 fel y ganlyn:
- Ynni Gwynt ar y Môr a Morol £793.1m
- Arfordirol £21.2m
- Mwynau £21.8m
- Ceblau a Rhyng-gysylltwyr £14.4m
- Amaethyddiaeth wledig ac eraill £2.4m
Cyfanswm gwerthoedd y grŵp oedd £853m.[10]
2024
[golygu | golygu cod]Yn 2024 galwodd y cynghorydd Dewi Jones i Gyngor Gwynedd atal taliadau i Ystad y Goron gn ddweud fod y Cyngor yn talu £160,00 y flwyddyn i'r Ystad. Dywedodd, “Dwi’n teimlo’n gryf y dylwn ni atal y taliadau yma am y tro a dechrau sgwrs go iawn am ddatganoli rheolaeth tir, a’r elw sy’n dod oddi wrthyn nhw i Lywodraeth Cymru.”[11]
Ar 5 Tachwedd 2024, cyflwynodd Peter Hain welliant newydd i Fil Ystad y Goron a fyddai'n cyflwynio comisiynwyr ystad y goron yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[12] Dywedodd Swyddfa Cymru y byddai'r comisiynydd yn gyfrifol am "ddarparu cyngor ar weithrediad Ystad y Goron yng Nghymru, gan sicrhau bod ei llais yn cael ei glywed".[13]
Galwadau dros ddatganoli
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Datganoli pellach i Gymru
Galwodd Plaid Cymru am ddatganoli Ystâd y Goron Cymru yn eu maniffesto yn 2011.[2]
Ym mis Mehefin, 2021, Cyflwynodd Saville Roberts fesur yn San Steffan a fyddai'n datganoli Ystâd y Goron Cymru i Lywodraeth Cymru.[14][15] Cafodd gyfnod Senedd y DU 2021-22 ei haddoedi ("prorogued") ac felly ni barhaodd y mesur.[16]
Yn 2022 galwodd Liz Saville Roberts am ddatganoli Ystâd y Goron Cymru gan ddweud bod mwyafrif swmpus yn y Senedd yn cefnogi'r datganoli a chael yr un pwerau â’r Alban dros Ystad y Goron. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Simon Hart na fyddai Cymru yn elwa o hyn.[17] Yn 2022 galwodd Rhys ab Owen hefyd am ddatganoli pwerau dros Ystâd y Goron Cymru.[7]
Ym mis Mawrth 2024, bu ymgyrch trawsbleidiol gan gynnwys Plaid Cymru, Llafur Cymru a chefnogaeth gan yr actorion Michael Sheen a Jerome Flynn i ddatganoli Ystad y Goron yng Nghymru.[18]
Ym mis Mai 2024, cyn lansiad ymgyrch Etholiad Cyffredinol y blaid, galwodd Liz Saville Roberts greu “Cronfa Cyfoeth Sofran Cymru” a fyddai’n defnyddio enillion portffolio Ystâd y Goron (gan gynnwys o ffermydd gwynt y môr yn y genedl i fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru. Mae Ystâd y gororn yn werth £853m ar hyn o bryd; ond dywedodd y gallai'r ffermydd gwynt gynhyrchu cymaint a £43bn mewn rhent.[19]
Ar 4 Tachwedd 2024, cyflwynodd Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ddiwygiad i Ddedf Ystad y Goron yn Nghŷ'r Arglwyddi yn galw am ddatganoli rheolaeth o'r Ystad yng Nghymru i'w drafod ar 5 Tachwedd 2024.[20]
Arolygon barn
[golygu | golygu cod]Yn 2023 dangosodd arolwg barn gan YouGov fod 58% o bobl Cymru yn cefnogi datganoli Ystâd y Goron i'w gymharu â 19% sy'n gwrthwynebu a 23% sydd ddim yn gwybod.[21]
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Pwy sy'n berchen ar wely'r môr, a pham mae'n bwysig". ymchwil.senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-05-06.
- ↑ 2.0 2.1 "Ystâd y Goron yng Nghymru" (PDF). 2011. t. 1-2.
- ↑ "Written evidence submitted by the Crown Estate (GRD0028)". committees.parliament.uk.
- ↑ "Wales Highlights 2021/22" (PDF).
- ↑ "£31miliwn i drawsnewid ynni adnewyddadwy". Welsh Govenment News. 2022-03-22. Cyrchwyd 2023-11-14.
- ↑ "Petition seeks control of Wales' Crown Estate land". BBC News (yn Saesneg). 2022-01-23. Cyrchwyd 2023-11-14.
- ↑ 7.0 7.1 "Pwyso am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru". Golwg360. 2022-10-13. Cyrchwyd 2023-05-05.
- ↑ "Wales Highlights 2020/21" (PDF). The Crown Estate.
- ↑ NationCymru (2022-06-16). "Value of marine holdings held by Queen's Crown Estate jumps 22% in a year amid devolution calls". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-14.
- ↑ Price, Emily (2023-09-01). "FOI request reveals staggering breakdown of Crown Estate assets in Wales". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-14.
- ↑ "Galw ar Gyngor Gwynedd i roi stop ar daliadau i Ystad y Goron". BBC Cymru Fyw. 2024-10-01. Cyrchwyd 2024-11-05.
- ↑ Mansfield, Mark (2024-11-05). "First concession to Wales by UK Government over running of Crown Estate". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-05.
- ↑ "Crown Estate: New Welsh adviser appointed to Royal landowner". BBC News (yn Saesneg). 2024-11-05. Cyrchwyd 2024-11-05.
- ↑ "Galw am ddatganoli Ystâd y Goron i ddod â £500 miliwn i Gymru". Golwg360. 2021-10-20. Cyrchwyd 2023-05-06.
- ↑ "Bil i ddatganoli Ystad y Goron i gadw elw o adnoddau naturiol Cymru yng Nghymru". Plaid Cymru. Cyrchwyd 2023-05-06.
- ↑ "Crown Estate (Devolution to Wales) Bill".
- ↑ "Fyddai datganoli Ystâd y Goron ddim yn dod â budd i Gymru, medd Ysgrifennydd Cymru". Golwg360. 2022-01-06. Cyrchwyd 2023-05-05.
- ↑ Price, Stephen (2024-03-20). "Watch: Michael Sheen lends support to cross-party calls for devolution of the Crown Estate". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-05.
- ↑ Mansfield, Mark (2024-05-28). "Wales should set up wealth fund with offshore wind farm profits – Plaid Cymru". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-30.
- ↑ "Galw o'r newydd am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru". Golwg360. 2024-11-05. Cyrchwyd 2024-11-05.
- ↑ Hayward, Will (2023-05-05). "Welsh people say the Crown Estate should be devolved to Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-06.