Ynysig
Gwedd
Ynys fechan iawn yw ynysig.[1] Ceir nifer o enwau rhanbarthol ar draws y byd:
- Yng ngorllewin Cefnfor yr Iwerydd, yn enwedig y Caribî, gelwir ynysigau yn gaiau neu'n geiau. Er enghraifft Rum Cay yn y Bahamas, a Cheiau Fflorida.
- Ym Mholynesia defnyddir yr enw motu ar ynysigau cwrel.
- Yn Ynysoedd y Sianel dynoder ynysigau gan yr ôl-ddodiad -hou, a darddir o'r gair Norseg holm. Er enghraiff, Jethou a Brecqhou.
- Yn Iwerddon gelwir ynysoedd creigiog bychain yn sgerïau.
- Gelwir ynysoedd bychain Afon Tafwys yn Lloegr yn aits neu'n eyots.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [islet].