Ymgyrch Moshtarak
Ymgyrch Moshtarak | |||||
---|---|---|---|---|---|
Rhan o Ryfel Affganistan (2001–21) | |||||
Môr-filwyr Americanaidd y tu allan i Marjah. | |||||
| |||||
Cydryfelwyr | |||||
Clymblaid Affganistan ISAF:[1][2] |
Gwrthryfelwyr Gwrthryfelwyr y Taleban | ||||
Arweinwyr | |||||
James Cowan Nick Parker Stanley McChrystal Lawrence Nicholson |
Qari Fazluddin Abdullah Nasrat Mullah Mohammad Basir | ||||
Nerth | |||||
15,000 o luoedd clymbleidiol[3] | 2,000 (yn ôl y Taleban) neu 400–1,000 (amcangyfrif UDA) | ||||
Anafusion a cholledion | |||||
45 yn farw |
Cannoedd wedi eu lladd 56 wedi'u cipio | ||||
[[File:Nodyn:Location map Affganistan|240px|Marjah is located in Nodyn:Location map Affganistan]] <div style="font-size: 90%; line-height: 110%; position: relative; top: -1.5em; width: 6em; Gweithredydd < annisgwyl">Marjah<div style="position: absolute; z-index: 2; top: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; left: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; height: 0; width: 0; margin: 0; padding: 0;"><div style="position: relative; text-align: center; left: -Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".px; top: -Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".px; width: Nodyn:Location map Affganistanpx; font-size: Nodyn:Location map Affganistanpx;"> Marjah (Nodyn:Location map Affganistan) |
Ymgyrch ymosodol gan y Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) yn nhalaith Helmand yn ne Affganistan oedd Ymgyrch Moshtarak (Dari am Ynghyd)[3] a barodd o Chwefror i Ragfyr 2010 yn ystod Rhyfel Affganistan (2001–21). Hon oedd y gyd-ymgyrch fwyaf i'w lansio ers goresgyniad y wlad yn 2001, a'i nod oedd i fwrw'r Taleban allan o dref Marjah, eu cadarnle olaf yng nghanolbarth Helmand. Roedd yn cynnwys 15,000 o luoedd ISAF o wledydd Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig, Canada, Denmarc, ac Estonia, ar y cyd â milwyr Affganaidd, yn brwydro'n erbyn gwrthryfelwyr y Taleban a therfysgwyr al-Qaeda. Ceisiwyd hefyd gyrru'r masnachwyr opiwm, a fuont yn rheoli Marjah ers blynyddoedd, ar ffo er mwyn galluogi adlunio'r ardal gyda chydweithrediad yr awdurdodau Affganaidd lleol.
Arweiniwyd prif wthiad yr ymgyrch gan Gorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau.[3] Er i'r ymgyrch brofi'n llwyddiannus ar y cychwyn, methiant a fu'r ymdrech gan ISAF a'r Affganiaid i sefydlu llywodraeth leol, gan ysgogi'r Taleban i ddychwelyd. Wedi 90 niwrnod o frwydro, disgrifiodd y Cadfridog Stanley McChrystal, Cadlywydd ISAF a'r Lluoedd Americanaidd yn Affganistan, yr ymgyrch yn "wlser gwaedlyd". Daeth yr ymladd i ben yn y gaeaf, a chyhoeddwyd yn ffurfiol bod yr ymgyrch wedi terfynu ar 7 Rhagfyr 2010.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Operation Moshtarak. ISAF (11 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
- ↑ (Saesneg) Helicopter armada heralds Afghan surge. The Daily Telegraph (13 Chwefror 2010).
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Operation Moshtarak: Assault in Helmand province. BBC (13 Chwefror 2010). Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.