Y Parlwr Du
Gwedd
Math | pentir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3542°N 3.3164°W |
Y Parlwr Du (Saesneg: Point of Ayr) yw pwynt mwyaf gogleddol tir mawr Cymru. Mae'n bentir isel a leolir yn union i'r gogledd o Dalacre, yng ngogledd Sir y Fflint, wrth geg Glannau Dyfrdwy ar eu glan orllewinol. Mae'n gartref i warchodfa natur yng ngofal yr RSPB (Y Gymdeithas Frenhinol er Amddiffyn Adar). Yn y môr gyferbyn â'r Parlwr ceir banc tywod Banc West Hoyle. Mae'n rhan o gymuned Llanasa.
Am flynyddoedd lawer bu pwll glo yn gweithio yn y Parlwr Du, a fu un o'r pyllau glo dwfn olaf i gau yng Nghymru (erys Glofa'r Tŵr, ger Hirwaun, de Cymru). Mae nwy naturiol o'r meysydd nwy Celtaidd ym Môr Iwerddon yn dod i'r lan ger y Parlwr Du i gael ei brosesu mewn gwaith gerllaw.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Llwyfan olew i'w weld o guddfan y RSPB yn y Parlwr Du; 2013.
-
Y goleudy a'r machlud haul
-
Machlud haul ar y traeth
-
Creyr bach copog o guddfan RSPB Parlwr Du