Y Merched Peintiedig, San Francisco
Gwedd
Math | adeiladwaith pensaernïol, ensemble pensaernïol, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | San Francisco |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 37.7764°N 122.4331°W |
Arddull pensaernïol | Queen Anne style architecture |
Deunydd | redwood |
Mae’r Merched Peintiedig, San Francisco yn enghraifft enwog o dai peintiedig, mewn lliwiau llachar, yn yr Unol Daleithiau. Mae’r fath tai yn dyddio o’r cyfnodau Fictoriaidd ac Edwardiaidd. Defnyddiwyd y term ‘Merched Peintiedig’ yn gyntaf gan Elizabeth Pomada a Michael Larsen yn eu llyfr ‘Painted Ladies: San Francisco's Resplendent Victorians’ ym 1978. Peintiwyd yr un cyntaf gan Butch Kardum, artist o San Francisco ym 1963. Llydaenodd y fasiwn dros y ddinas, ac wedyn i lefydd eraill yn yr Unol Daleithiau, megis Baltimore, New Orleans a Cincinatti. Mae’r enghraifftiau enwocaf ar Heol Steiner yn ardal Haight Ashbury, San Francisco.[1]