Y Fenni
Math | tref farchnad, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,078, 10,766 |
Gefeilldref/i | Östringen, Sarno, Canton Beaupréau |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,032.5 ha |
Gerllaw | Afon Wysg |
Cyfesurynnau | 51.8331°N 3.0172°W |
Cod SYG | W04000775 |
Cod OS | SO295145 |
Cod post | NP7 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Tref farchnad a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw'r Fenni[1][2] (Saesneg: Abergavenny). Saif tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar yr A40 ac ar yr A465, a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.
Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru" (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Pen-y-Fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr, Ysgryd Fach, Deri, Rholben a Mynydd Llanwenarth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Gwreiddiau'r dref a'i henw
[golygu | golygu cod]Roedd Gobannium yn gaer Rufeinig a oedd yn amddiffyn y ffordd ar hyd dyffryn Wysg a oedd yn cysylltu Burrium (Brynbuga) ac Isca Augusta (Caerllion) yn y de â Cicucium (Y Gaer) a'r canolbarth. Adeiladwyd hefyd er mwyn trechu'r Silwriaid brodorol. Cafwyd hyd i adfeilion y gaer hon yn y 1960au pan adeiladwyd y swyddfa bost newydd.
Daw'r enw "Y Fenni" o'r hen enw "Abergafenni". Enwyd afon Gafenni ar ôl y gaer Rufeinig "Gobannium", a enwyd ar ôl yr hen dduw Celtaidd "Gobannos". Mae hwnnw'n gyfarwydd i ni heddiw fel Gofannon fab Dôn yn Culhwch ac Olwen. Mae ei enw'n gytras â'r gair 'gof', yn awgrymu cysylltiadau hynafol rhwng gofaint ag ardal y Fenni.
Cyfnod y Normaniaid
[golygu | golygu cod]Tyfai'r Fenni'n dref o dan reolaeth Arglwyddi'r Fenni. Hamelin de Balun, o Ballon, Maine-Anjou, ger Le Mans, Ffrainc, oedd y barwn cyntaf. Sefydlodd abaty Benedictaidd yn y 11g, lle saif Eglwys y Santes Fair erbyn hyn. Derbyniai'r eglwys honno degwm gan y castell a chan y dref. Ceir cerfluniau diddorol yno.
Oherwydd ei lleoliad ar y ffin gwelai'r dref sawl rhyfel yn ystod y 12fed a'r 13g. Ym 1175, lladdwyd holl benaethiaid Cymreig yr ardal gan Wilym Brewys, tad y Gwilym Brewyd a geid yn hanes Siwan gan Saunders Lewis. Gwahoddodd Gwilym y penaethiaid lleol i'w gastell am wledd ddydd Nadolig. Rhoes y Cymry ei arfau iddo er mwyn dod i mewn i'r castell, ond yn lle datrys y problemau a oedd ganddynt, fe'u bradychwyd gan Wilym a'u lladd. Mae Gerallt Gymro yn adrodd i'r Cymry gipio'r castell o Frewys ym 1182.
1300 i 1900
[golygu | golygu cod]Ymosododd Owain Glyndŵr â'r dref ym 1404. Yn ôl yr hanes, daeth gwŷr Glyn Dŵr i mewn i'r dref â chymorth Cymraes leol a adawodd iddynt ddod i mewn drwy borth ar Stryd y Farchnad liw nos. Agorodd y drws a daeth y fyddin i mewn yn llosgi'r dref, ond yn gadael y castell i fod. Gelwir Stryd y Farchnad "Traitors' Lane" hyd heddiw.
Sefydlwyd Ysgol y Brenin Harri VIII ym 1542.
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr daeth y Brenin Siarl I i'r Fenni er mwyn cymryd rhan yn achos llys Syr Trefor Williams, a seneddwyr eraill.
Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar 2 Tachwedd 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, ac yn y dref cynaliwyd Eisteddfodau'r Fenni o 1834 i 1854.
Hanes diweddarach
[golygu | golygu cod]Carcharwyd Rudolph Hess yng Nghwrt Maindiff yn ystod yr ail Ryfel Byd, ar ôl iddo hedfan i'r Alban.
Marchnadoedd
[golygu | golygu cod]Marchnad Wartheg
[golygu | golygu cod]Cynhelir marchnad wartheg yn y Fenni ar y safle bresennol ers 1863. Rhwng 1825 a 1863 cynhelid marchnad ddefaid ar Stryd y Castell, er mwyn atal y preswylwyr rhag gwerthu eu defaid ar hyd strydoedd y dref. Mae'r farchnad yn cael ei rheoli heddiw gan Abergavenny Market Auctioneers Ltd., sydd yn cynnal arwerthiannau rheolaidd yno. Gwerthir defaid a phorthiant ar ddydd Mawrth, ac weithiau gwerthir gwartheg ar ddydd Gwener.
Wrth i farchnad wartheg Casnewydd gau, cynhelir y farchnad honno yn y Fenni bob dydd Mercher.
Y Neuadd Farchnad
[golygu | golygu cod]Ceir amryw farchnadoedd yn y neuadd farchnad.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]- Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ym 1838, 1913 ac yn 2016.
- Ym 1968 cyhoeddwyd y gân "Abergavenny" gan Marty Wilde.
- Mae gan y Fenni tair gefeilldref, sef Ostringen, Beaupreau a Sarno.
- Ceir cyfeiriadau at y Fenni yn llyfrau Sherlock Holmes a Harry Potter.
- Ymhlith aelodau cymdeithas Cymreigyddion y Fenni oedd yr hanesydd Carnhuanawc.
- Ceir croes eglwysig o bwys gerllaw, sef Croes Eglwys St Issau.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]Ceir yma nifer o eglwysi: Eglwys y Santes Fair yw prif eglwys y dref, ac mae'n un o'r eglwysi mwyaf yng Nghymru. Ceir dwy eglwys a gysegrwyd i Sant Teilo gerllaw: y cyntaf yn Llandeilo Bertholau a'r ail yn Llandeilo Gresynni. Mae tŵr cam eglwys Cwm-iou yn nodedig, ychydig filltiroedd o Aberhonddu; gerllaw, saif Priordy Llanddewi Nant Hodni, priordy Awstinaidd ger pentref Llanddewi Nant Hodni yng nghymuned Crucornau.
- Castell y Fenni
- Neuadd y Dref
- Neuadd y Farchnad
- Ysbyty Pen-y-Fal
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Dafydd ap Rhys o'r Fenni (weithiau 'o'r Fenni') (fl. c. 1550); bardd.[5]
- Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (1802-1896)
- Malcolm Nash (g. 1945), cricedwr
- John Osmond (g. 1946), newyddiadurwr
- Y llenor Owen Sheers (g. 1974 yn Suva, Ffiji)
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 05 Rhagfyr 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Cerddorfa Symffoni'r Fenni Archifwyd 2016-03-27 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Brynbuga · Cas-gwent · Cil-y-coed · Y Fenni · Trefynwy
Pentrefi
Aber-ffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Bryngwyn · Caer-went · Castellnewydd · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Hengastell · Little Mill · Llanarfan · Llan-arth · Llanbadog · Llancaeo · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llandogo · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Gobion · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llan-ffwyst · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · Sudbrook · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd