Neidio i'r cynnwys

Y Deuddegfed Gogoneddus

Oddi ar Wicipedia
Y Deuddegfed Gogoneddus
{{{holiday_name}}}
Orenwyr yn gorymdeithio ym Mangor ar 12 Gorffennaf 2010
Dethlir gan Yr Urdd Oren
Arwyddocâd Dathlu Chwyldro Gogoneddus 1688 a buddugoliaeth Wiliam o Oren ym Mrwydr y Boyne.
Dyddiad 12 Gorffennaf
Dathliadau Gorymdeithiau, cystadlaethau drymiau Lambeg, codi baneri a rhubanau.
Cysylltir â Yr Unfed Noson ar Ddeg

Dathliad Protestannaidd blynyddol yw'r Deuddegfed Gogoneddus[1] neu'r Deuddegfed (Saesneg: The Glorious Twelfth, The Twelfth neu Orangemen's Day)[2] a gynhelir ar 12 Gorffennaf. Cychwynnodd yn Iwerddon yn y 18g, ac mae'n dathlu Chwyldro Gogoneddus 1688 a buddugoliaeth Wiliam o Oren dros Iago II ym Mrwydr y Boyne ym 1690. Mae aelodau'r Urdd Oren a bandiau Protestannaidd yn gorymdeithio ar led Gogledd Iwerddon, ac hefyd mewn mannau eraill o'r byd. Mae'r Deuddegfed yn ŵyl cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.[2]

Cysylltir trais â dathliadau'r Deuddegfed yn Wlster ers ei gychwyn. Mae nifer yn y gymuned Gatholig a chenedlaetholwyr Gwyddelig yn ystyried gorymdeithiau'r Urdd Oren yn enwadol, gorchestaidd, a phryfoclyd. Bu anghydfod ar ei anterth yn ystod yr Helyntion, ond yn ddiweddar gwneir ymdrechion i fychanu agweddau gwleidyddol yr ŵyl ac ei wneud yn ddigwyddiad diwylliannol i deuluoedd a thwristiaid.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1544 [the Glorious Twelfth].
  2. 2.0 2.1 Bank holidays Archifwyd 2010-11-22 yn y Peiriant Wayback NI Direct