Y Blaid Lafur Annibynnol
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | sosialaeth ddemocrataidd, Centrist Marxism |
Daeth i ben | 1975 |
Dechrau/Sefydlu | 1893 |
Rhagflaenwyd gan | Scottish Labour Party |
Olynwyd gan | Independent Labour Publications |
Sylfaenydd | Keir Hardie |
Aelod o'r canlynol | Labour and Socialist International, International Revolutionary Marxist Centre |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Plaid wleidyddol Brydeinig oedd y Blaid Lafur Annibynnol (Saesneg: Independent Labour Party; ILP), a sefydlwyd ym 1893, pan ymddangosai'r Rhyddfrydwyr yn amharod i gymeradwyo ymgeiswyr o'r dosbarth gweithiol.
Keir Hardie, trefnydd undeb adnabyddus a oedd ar y pryd yn AS annibynnol yn San Steffan, oedd ei chadeirydd cyntaf.
Ym 1906 daeth y blaid yn gysylltiedig â'r Blaid Lafur, ond cadwodd ei llais annibynnol ei hun am lawer o flynyddoedd. Roedd yn gwrthwynebu militariaeth y Rhyfel Mawr yn gryf.