Willie Llewellyn
Llewellyn, ym 1905 fel capten gêm yn erbyn Lloegr | |||
Enw llawn | William Morris Llewellyn | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | [1] | 1 Ionawr 1878||
Man geni | Tonypandy,[1] | ||
Dyddiad marw | 12 Mawrth 1973 | (95 oed)||
Lle marw | Pontyclun[1] Wales | ||
Taldra | 5' 7 1/2 | ||
Pwysau | 11 st | ||
Ysgol U. | Coleg Crist, Aberhonddu | ||
Prifysgol | Pharmaceutical College, Bloomsbury | ||
Perthnasau nodedig | Tom Williams (ewythr) | ||
Gwaith | fferyllydd | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | asgellwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
??? 1895-1900 1900–1906 1902–1905 1906–??? |
Ystrad Rhondda Llwynypia Cymry Llundain Casnewydd Penygraig Caerdydd Sir Forgannwg Surrey | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1899–1905 1904 |
Cymru Y Llewod |
20 4 |
(48) (12) |
Roedd William Morris "Willie" Llewellyn (1 Ionawr 1878 - 12 Mawrth 1973) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru. Bu'n gapten ar Gymru ym 1905 a Chymru Llundain ym 1902. Roedd yn aelod o dîm buddugol Cymru a gurodd y Crysau Duon ym 1905. Aeth ar daith gyda Thîm Ynysoedd Prydain i Awstralasia ym 1904. Bu'n rhan o garfan Gymreig a enillodd tair Coron Driphlyg. Chwaraeodd rygbi clwb i lawer o dimau, yn bennaf i Lwynypia a Chasnewydd .
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Llewellyn yn Nhonypandy, yn blentyn i Howell Llewellyn, ceidwad gwesty a Catherine ei wraig. Roedd y chwaraewr rygbi rhyngwladol Tom Williams yn ewythr iddo. Williams oedd y gŵr a awgrymodd canu Hen Wlad Fy Nhadau fel ymateb i'r Haka ar ddechrau gêm y Crysau Duon ym 1905. Y tro cyntaf yn y byd i anthen genedlaethol cael ei ganu mewn gornest chwaraeon. Addysgwyd Llewellyn yng Ngholeg Crist, Aberhonddu; lle fu'n gapten tîm rygbi'r coleg,[2] a Choleg Fferyllol, Bloomsbury, Llundain.
Ym 1907 priododd Llewellyn ag Annie Thomas, merch Dan Thomas Llwynypia.[3] Bu iddynt fab a merch.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Llewellyn ei ddyddiau rygbi clwb yn Ystrad Rhondda cyn symud i Lwynypia. Er ei fod yn glwb ail haen nad oedd yn ffasiynol, roedd Llwynypia eisoes wedi darparu dau chwaraewr rhyngwladol i Gymru, Dick Hellings a Billy Alexander, ac ymunodd Llewellyn â'u rhengoedd pan gafodd ei gapio ym 1899. Yn 1900 symudodd i Lundain i astudio yn y Coleg Fferyllol yn Bloomsbury ac ymunodd â thîm di-raen Cymry Llundain.[4] Mae dyfodiad Llewellyn yn cael ei ystyried yn drobwynt i'r clwb; fe’i gwnaed yn gapten ar unwaith a throdd y tîm o ochr oedd yn colli'n aml i dîm i'w ofni gan ei gwrthwynebwyr.[5] Ar ôl dychwelyd i Gymru, ymunodd Llewellyn â chlwb dosbarth cyntaf, Casnewydd, y byddai'n aros gyda nhw trwy bedwar tymor. Ar ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol dychwelodd Llewellyn i rygbi clwb ail ddosbarth a'r Rhondda pan ymunodd â Phenygraig .
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Cymru
[golygu | golygu cod]Gwnaeth Llewellyn ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym 1899, ochr yn ochr â mawrion Cymru, Billy Bancroft a Gwyn Nicholls. Cafodd Llewellyn gêm gyntaf rhagorol, gyda Lloegr yn cael ei churo’n llwyr wedi i Llewellyn sgorio pedwar cais.[6] Sgoriodd Llewellyn eto yn ei ail gêm, a oedd yn erbyn yr Alban.
Roedd Llewellyn yn rhan o'r carfanau a enillodd y Goron Driphlyg ym 1900, 1902 a 1905, ond ei wir foment o ogoniant oedd fel rhan o dîm Cymru a gurodd y Crysau Duon ym 1905. Roedd rhai yn feirniadol o'r penderfyniad i ddewis Llewellyn ar gyfer yr ornest gan ei fod wedi rhoi'r gorau i chwarae rygbi dosbarth cyntaf gyda Chasnewydd er mwyn chware i dîm ail reng, Penygraig. Roedd eraill yn credu ei fod o’n rhy hen, yn 27 mlwydd oed i redeg yr asgell.[7] Efallai bod y ffaith ei fod wedi baglu gyda'r bel o fewn pellter i'r llinell gais wedi profi rhywfaint o'r feirniadaeth yn gywir, ond ni wnaeth effeithio ar y canlyniad terfynol. Ei gyfraniad mwyaf nodweddiadol i'r gêm oedd trwy farcio a rhwystro Billy Wallace un o sêr amlycaf y Crysau Duon.
Y Llewod Prydeinig
[golygu | golygu cod]Ym 1904 dewiswyd Llewellyn i fynd ar daith i Awstralasia ochr yn ochr â’i gyd asgellwr o Gymru, Teddy Morgan [8] dan gapteiniaeth Bedell-Sivright . Byddai Llewellyn yn chwarae mewn pedwar prawf, gan sgorio pedwar cais yn y tri phrawf cyntaf yn erbyn Awstralia.
Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae
[golygu | golygu cod]Cymru [9]
- Lloegr 1899, 1900, 1901, 1902, 1904, 1905
- Iwerddon 1899, 1900, 1901, 1902, 1903, 1904, 1905
- Seland Newydd 1905
- yr Alban 1899, 1900, 1901, 1902, 1904, 1905
Y Llewod
- Awstralia 1904 Prawf 1af, 1904 2il Brawf, 1904 3ydd Brawf
- Seland Newydd 1904
Gyrfa diweddarach a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Tua 1905 agorodd Llewellyn fferyllfa yn ei dref enedigol Tonypandy. Adroddir bod y terfysgwyr yn ystod Terfysg Tonypandy 1910 wedi gadael fferyllfa Llewellyn yn ddianaf oherwydd ei enwogrwydd ar y cae rygbi,[10] er bod un o haneswyr amlycaf y terfysg wedi bwrw amheuaeth ar y stori.[11]
Pan fu farw Llewellyn ym 1973 ym Mhont-y-clun yn 95 oed, ef oedd yr olaf o dîm Cymru 1905 a gurodd y Crysau Duon. Yn 2019 gosodwyd plac glas er cof am Llewellyn ar fur llyfrgell Tonypandy.[12] Fe’i cofir fel dyn cymedrol a oedd yn gapten rhagorol dros glwb a gwlad ac a oedd yn un o’r chwaraewyr asgell fwyaf dinistriol yn hanes rygbi Cymru.[5]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Grant, Philip J (2018). Willie Llewelyn, The Road to Victory over the 1905 All Blacks. Ceredigion: Gwasg Gomer. ISBN 978-0-9567271-1-4.
- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Pen-y-bont: seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Willie Morris Llewellyn". www.blackandambers.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 4 Chwefror 2021.
- ↑ "BIOGRAPHICALSKETCHESOFTHEPLAYERS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1899-03-04. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "LOCALWEDDINGSI - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1907-05-04. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "FOOTBALL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-01-20. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ 5.0 5.1 Thomas (1979), tud23
- ↑ Thomas (1979), tud22
- ↑ Thomas (1979), tud 24
- ↑ Smith (1980), tud 148.
- ↑ Smith (1980), tud 468.
- ↑ Gwyddoniadur Cymru, yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 568. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
- ↑ "Rhondda marks 100th anniversary of Tonypandy Riots". BBC News. 2010-11-07. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "Blue Plaque Honours Rugby Legend". www.rctcbc.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-15. Cyrchwyd 2021-02-04.