William Robert Maurice Wynne
William Robert Maurice Wynne | |
---|---|
Ganwyd | 15 Chwefror 1840 Ruyton-XI-Towns |
Bu farw | 5 Chwefror 1909 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, tirfeddiannwr |
Swydd | tirfeddiannwr, gwleidydd, milwr, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | William Watkin Edward Wynne |
Mam | Mary Wynne |
Plant | Francis Howard |
Tirfeddiannwr ystâd Peniarth, Llanegryn, Meirionnydd, oedd William Robert Maurice Wynne (15 Chwefror 1840 – 5 Chwefror 1909). Roedd yn wleidydd Ceidwadol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd rhwng 1865 a 1868. Hynafiaethydd oedd ef, a rhoddodd y Llawysgrifau Peniarth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Wynne yn Ruyton, Swydd Amwythig yn fab hynaf William Watkin Edward Wynne, Aelod Seneddol Meirionnydd 1852–65, a Mary (née Slaney) ei wraig.[1] Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.
Ym 1891 priododd Winifred Frances (Fanny), merch William Kendal a gweddw Robert Isherwood Williamson, Swydd Efrog, ni fu iddynt blant; ond cafodd Wynne blentyn anghyfreithlon drwy berthynas a'i gordderch Catherine Cocks, sef y Capten Francis Howard DSC.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym 1860 ymunodd Wynne a chatrawd y Gwarchodlu Albanaidd gan ymadael a'r fyddin yn is-gapten pan gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol pum mlynedd yn ddiweddarach.[3]
Ym 1880 etifeddodd Wynne ystadau ei dad gan gyflawni dyletswyddau disgwyliedig tirfeddiannwr. Roedd ei ystâd yn mesur tua 9,000 cyfer yn ardal Dysynni yn ne Meirionnydd, gyda'r plasty yn agos i bentref Llanegryn. Roedd yn ymddiddori yng ngwaith amaethyddol ei denantiaid gan gynnal sioe amaethyddol ar ei dir yn flynyddol er mwyn annog ymarfer da yn y maes; bu hefyd yn gwasanaethu fel llywydd Cymdeithas Amaethyddol a Garddwriaethol Meirionnydd, a bu'n gynrychiolydd Cyngor Sir Feirionnydd ar Fwrdd Pysgota Afonydd Dyfi, Mawddach a Glaslyn. Gwasanaethodd fel un o lywodraethwyr Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.[4]
Roedd yn ymddiddori ym maes hynafiaethau, ac ar farwolaeth ei dad etifeddodd ei gasgliad o lawysgrifau. Ym 1904 gwerthodd y casgliad yn amodol i Syr John Williams ac ar farwolaeth Wynne ym 1909 trosglwyddwyd y casgliad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle mae Llawysgrifau Peniarth yn parhau i fod y casgliad pwysicaf o holl gasgliadau'r Llyfrgell.[5]
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ar ymddeoliad ei dad o'r Senedd ym 1865 cynigiodd Wynne ei hun fel ymgeisydd Ceidwadol yn ei le gan ennill y sedd o ddim ond 31 pleidlais dros ei wrthwynebydd Rhyddfrydol. Roedd Wynne yn gredwr cryf yn y syniad o gysylltiad rhwng landlordiaeth a chynrychiolaeth seneddol ond pan basiwyd Deddf Cynrychiolaeth y bobl 1867, yn ehangu'r bleidlais i bob penteulu gwrywaidd, gwyddai bod y fath yna o gysylltiad wedi darfod. Wedi gweld yr ysgrifen ar y mur penderfynodd beidio a sefyll yn Etholiad Cyffredinol 1868, gan adael i'r Rhyddfrydwr, David Williams, Castell Deudraeth cipio'r sedd yn ddiwrthwynebiad. Ni lwyddodd y Ceidwadwyr i ail afael ar etholaeth Meirionnydd hyd ei ddiddymu yn Etholiad cyffredinol 1983. Safodd Wynne fel ymgeisydd aflwyddiannus i'r Ceidwadwyr yn etholiadau 1885 ac 1886.
Er iddo golli ei sedd seneddol parhaodd Wynne i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth leol gan gael ei ethol yn aelod o Gyngor Sir Feirionnydd o'i sefydlu ym 1889 gan barhau'n aelod hyd ei farwolaeth.
Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar feinciau Meirionnydd a Sir Drefaldwyn. Ym 1884 fe'i penodwyd yn Gadeirydd Llysoedd Chwarter Sir Feirionnydd.
Ym 1886 gwasanaethodd Wynne fel Uchel Siryf Meirionydd ac o 1891 hyd ei farwolaeth bu'n Arglwydd Raglaw'r Sir, ac ym 1892 fe'i penodwyd yn Gwnstabl Castell Harlech[6]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref Llundeinig yn Buckingham Gate ychydig ddyddiau'n brin o'i 69 pen-blwydd a ddygwyd ei gorff adref i Lanegryn i orwedd yng Nghladdgell y teulu yn eglwys y plwyf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomas Nicholas 1872 Tud 712 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales, Volume 2 [1] adalwyd 8 Ionawr 2016
- ↑ The Peerage Captain Francis Howard [2] adalwyd 8 Ionawr 2016
- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [3] adalwyd 8 Ionawr 2016
- ↑ "Death of the Lord Lieutenant of Merioneth - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1909-02-12. Cyrchwyd 2016-01-08.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llawysgrifau Peniarth [4] adalwyd 8 Ionawr 2016
- ↑ "Mr W R M Wynne Peniarth - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria". W. H. Evans. 1909-02-11. Cyrchwyd 2016-01-08.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Watkin Edward Wynne |
Aelod Seneddol Meirionnydd 1865 – 1868 |
Olynydd: David Williams |