Neidio i'r cynnwys

William Blake

Oddi ar Wicipedia
William Blake
Ganwyd28 Tachwedd 1757 Edit this on Wikidata
Llundain, Broadwick Street Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd11 Rhagfyr 1757 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1827 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylGreen Street, Broadwick Street, Broadwick Street, Poland Street, Hercules Buildings, Felpham, South Molton Street, Fountain Court, Battersea, Broadwick Street Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgolion yr Academi Frenhinol
  • Henry Pars Drawing School Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, bardd, casglwr, gwneuthurwr printiau, darlunydd, athronydd, lithograffydd, argraffydd, drafftsmon, llenor, libretydd, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Marriage of Heaven and Hell, Jerusalem (Anthem William Blake), Vala, or The Four Zoas, Jerusalem The Emanation of the Giant Albion, Milton Edit this on Wikidata
Arddullpeintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, alegori, celfyddyd grefyddol, paentiad mytholegol, alegori Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJakob Böhme, William Pars, James Barry, Giulio Romano Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth, fairy painting Edit this on Wikidata
TadJames Blake Edit this on Wikidata
MamCatherine Hermitage Edit this on Wikidata
PriodCatherine Blake Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd ac arlunydd o Loegr oedd William Blake (28 Tachwedd 175712 Awst 1827). Mae llawer o'i gerddi a'i ddarluniau yn ymdrin â mytholeg dwys personol a ddyfeisiwyd ganddo fe'i hun; bu'r Beibl a llenyddiaeth John Milton hefyd yn ddylanwad mawr arno. Datblygodd ddull argraffu unigryw ar gyfer ei weithiau, "illuminated printing", a oedd yn cyfuno testun a lluniau ar yr un blât copr; roedd Blake yn lliwio pob tudalen â phaent dyfrlliw, gan wneud pob "argraffiad" yn unigryw. Melltithiodd athrawiaeth rhesymoliaethol a materiolaethol ei oes, sef Oes yr Oleuo, am fod hyn yn llesteirio'r dychymyg a chrefydd, ac yn hynny o beth roedd yn arloeswr o'r Oes Ramantaidd. Yr enwocaf ymhilth ei gerddi yw "The Tyger" (o Songs of Experience, 1794) a'r rhagymadrodd i Milton: A Poem (1804–10), a osodwyd i gerddoriaeth yn yr 20g i greu yr anthem Seisnig adnabyddus, "Jerusalem".

Ganed ef yn Soho, Llundain. Cafodd weledigaethau crefyddol pan yn ifanc iawn; rhywbryd rhwng 8 a 10 oed fe welodd "a tree filled with angels". Yn 14 oed cafodd brentisiaeth â'r engrafwr James Basire ac am gyfnod byr bu'n astudio yn ysgol yr Academi Frenhinol. Fe'i ysbrydolwyd yn ei ddyddiau cynnar gan gerfluniau a phensaernïaeth Gothig Abaty Westminster, a gan argraffiadau anffasiynol o weithiau Michelangelo, Albrecht Dürer a Raffaello Sanzio. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf o gerddi, Songs of Innocence, ym 1789. Yn hwyrach yn yr un flwyddyn, dechreuodd ei gerdd "proffwydol" cyntaf, The Book of Thel. Yn y cyfnod hyn roedd yn gymharol llwyddiannus o'i waith engrafu masnachol, a chafodd ei gomisynu i ddarparu'r darluniau ar gyfer llyfr Mary Wollstonecraft, Original Stories from Real Life (1791). Bu Wollstonecraft yn ddylanwad ar ei gerdd Visions of the Daughters of Albion (1793).

Darlun gan Blake ar gyfer cerdd Thomas Gray, The Bard (1797–98)
Darlun gan Blake ar gyfer cerdd Thomas Gray, The Bard (1797–98) 
Portread dychmygol o Owain Glyn Dŵr gan Blake, o'r gyfres Visionary Heads (1819)
Portread dychmygol o Owain Glyn Dŵr gan Blake, o'r gyfres Visionary Heads (1819) 
The Ancient of Days, darlun o Europe: A Prophecy (1821)
The Ancient of Days, darlun o Europe: A Prophecy (1821) 

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
  • (Saesneg) Essick, Robert N. "Blake, William (1757–1827)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/2585.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)