Vladimir Atlasov
Gwedd
Vladimir Atlasov | |
---|---|
Ganwyd | 1661, 1660, 1663 Veliky Ustyug |
Bu farw | 1 Chwefror 1711 Nizhnekamchatsk |
Dinasyddiaeth | Tsaraeth Rwsia |
Galwedigaeth | fforiwr |
Fforwr o Rwsia oedd Vladimir Vasilyevich Atlasov neu Otlasov (Rwseg: Влади́мир Васи́льевич Атла́сов neu Отла́сов) (ganed yn Veliky Ustyug rhwng 1661 a 1664 – 1711). Roedd yn Cosac Siberiaidd ac fe'i cofir fel y Rwsiad cyntaf i fforio Gorynys Kamchatka (yn Crai Kamchatka, Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell). Enwir Ynys Atlasov, ynys fwlcanig ger arfordir deheuol Kamchatka, ar ei ôl.
Atlasov oedd yr Ewropeiad cyntaf i weld Afon Golygina yn ne Kamchatka. Cyn cyrraedd Kamchatka roedd wedi fforio yn nwyrain Siberia a Dwyrain Pell Rwsia a chyrhaedd Môr Okhotsk. Cafodd ei gyhuddo o drin ei griw o Cosaciaid yn arw; fe'i llofruddwyd yn ei gwsg yn 1711.