Neidio i'r cynnwys

Unben

Oddi ar Wicipedia

Person sy'n cymryd awennau'r llywodraeth yn gyfangwbl i'w ddwylo ei hun, yn enwedig trwy ddulliau anghyfansoddiadol megis coup d'état, ac sy'n rheoli gwlad gyda grym absoliwt yw unben. Gelwir ei lywodraeth yn unbennaeth.

Geirddarddiad

[golygu | golygu cod]

Daw'r gair Cymraeg unben o'r elfennau 'un' 'pen' (pennaeth, rheolwr). Sylwer, fodd bynnag, fod unben (benywaidd: unbennes) yn air Cymraeg Canol digon parchus, sy'n golygu "teyrn" neu "uchelwr"; ceir sawl enghraifft ohono fel cyfarchiad yn y Pedair Cainc.[1] Y gair cyfatebol yn Saesneg a rhai ieithoedd eraill yw dictator (neu ffurf debyg), o'r gair Lladin dictatus. Tardda o gyfnod y Rhufain Hynafol pan roddwyd grym absoliwt i reolwr, dros dro yn unig, mewn argyfwng gwladol.

Rhai unbeniaid enwog

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 4, tud. 3704.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am unben
yn Wiciadur.