Neidio i'r cynnwys

Un Diwrnod Ifan Denisofitsh

Oddi ar Wicipedia

Mae Un Diwrnod Ifan Denisofitsh (Rwsieg:Один день Ивана Денисовича; ynganiad: "Odin den' Ifana Denisofitsia", 1962) yn nofel lled-hunangofiannol gan Alexander Solzhenitsyn,(Алекса́ндр Иса́евич Солжени́цын) a gyfieithwyd i'r Gymraeg ym 1977 gan W Gareth Jones fel rhan o'r gyfres " Cyfres Yr Academi". Ynddi cawn weld bywyd carcharorion 'y Gwlag' yn yr Undeb Sofietaidd. Drwy ddisgrifiad manwl iawn o un dydd o waith a'r cymeriadau amrywiol sydd wedi eu carcharu ag ef mae Ifan yn rhoi cip i ni ar gyfundrefn y gwersyll, meddwl y bobl a blas ar galedi bywyd yn nwyrain yr USSR.

Roedd y llyfr yn agoriad llygaid yn Rwsia ac y Gorllewin pan gyhoeddwyd ef yn gyntaf. Roedd yn rhaid cael ymyrriad Nikita Khrushchev ei hun i gyhoeddi'r nofel am ei bod yn negyddol iawn am gyfnod Stalin. Seilwyd y gwersyll ar un yng Nghasacstan lle treuliodd yr awdur ei hun gyfnod o garchar.

Cyhoeddwyd y nofel yn y cylchgrawn llenyddol Novy Mir am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1962. Mae'r nofel yn disgrifio'r amodau byw mewn gwersyll Gulag ar ddechrau'r 1950au, drwy lygaid y carcharor Ivan Denisovich Shukhov. Mae cyhoeddi'r nofel wedi cyflwyno i ddarllenwyr Sofiet dystiolaeth o'r Gwlag am y tro cyntaf.

Cynlluniodd Solzhenitsyn y prosiect yn 1950 neu 1951 pan gafodd ei gadw yng ngwersyll Ekibastuz Casachstan. Ym mis Mawrth 1953 symudodd i Kok-Terek ac yno y dechreuodd ysgrifennu y stori dan yr enw "'Chtch-854, diwrnod zek . Llysenw dirmygus am garcharor yw 'zek'. Ond ym mis Tachwedd 1961 derbyniodd y testun gan Aleksandr Tvardovsky, golygydd y cylchgrawn pwysig Novy Mir a dechreuwyd cyfeillgarwch oedd i bara hyd farwolaeth Tvardovski yn 1971.

Aeth y nofel o flaen Politburo y Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ac i'r arweinydd Khrushchev. Ceid dau argraffiad ar wahân, y cyntaf yn y cyfnodolyn 'Gazeta' a'r llall yn 'Sovietski Pissatel'. Fodd bynnag, mae llawer o ddarnau wedi cael eu cyflwyno i'r sensor.

Cyflwynwyd Un Diwrnod Ifan Denisofitsh i Lenin. Cyfieithwyd wedyn i lawer o ieithoedd y byd, yn cynnwys y Gymraeg ym 1977.

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mae Ifan Denisofitsh Shwchof, rhif cofrestru CH-854, wedi ei ddedfrydu i alltudiaeth mewn gwersyll llafur. Ar ôl ei gyhuddiad o ysbïo, oherwydd iddo gael ei ddal gan yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er iddo gael ei ddedfrydu i ddeng mlynedd, yr oedd ef eisoes wedi gwasanaethu wyth mlynedd. Felly mae Shwchof yn gwybod bod e'n debygol i adael y gwersyll yn fyw.

Mae'r hanes yn agor am bump y bore yn y gaeaf, ac mae Shwchof yn sâl. Ond mae'n cael ei gosbi gan oruchwyliwr i gell am dridiau gyda gwaith: Rhaid iddo ddechrau gyda glanhau llawr ystafell y gwarchodwyr, ac yr ystafell yn cael ei gynhesu tra bod hi'n -27.5 °tu allan,Wedyn mae'n mynd i'r clinig i geisio gofal. Ni all y meddyg ei eithrio oherwydd ei fod wedi eisoes wedi rhagori ar ei chwota 'salwch' dyddiol. felly rhaid iddo ddychwelyd i'r gwaith. Ymddengys bod Shwchof yn weithiwr caled, a oedd wedi ennill parch ei gyfoedion. Ceir dognau bwyd Casha (yd wedi hollti) cyfyngedig iawn a phob diferyn o'r cawl amrwd yn bwysig. Ar ddiwedd y dydd, mae'n dod i wneud gwasanaethau bach i Cesar, dyn mor freintiedig yn y carchar ei fod yn derbyn pecynnau bwyd o'i berthnasau, mae'n rhannu gyda Shwchof mewn gwerthfawrogiad o'i wasanaeth.

Erbyn diwedd y dydd, er gwaethaf y caledi mae Shwchof yn hapus, "bron yn ddiwrnod da" am ei fod yn gallu goroesi. Mae Solzhenitsyn yn darparu darllenwyr, mewn llyfr byr a hygyrch, paentiad o greulondeb y gwersylloedd crynhoi. Dyn oedd yn benderfynol o dderbyn trais y system, cyfyngu ei obethion i anghenion sylfaenol bywyd a dal ati i oroesi tan yfory.

Mae'r nofel fer a ysgrifennwyd mewn arddull sobr a mirein, yn dwyn ynghyd y rhan fwyaf o hoff themâu Solzhenitsyn. Y Gwlag, fffawd Rwsia, arwriaeth a chaledi bywydau cyffredin. Nid yw hiwmor yn absennol o'r nofel, er gwaethaf y caledi, oerni, salwch, a dioddef drwy'r dydd, mae Shwchof yn llwyddo i dal gafael ar obaith ac ar fywyd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  • Un Diwrnod Ifan Denisofitsh; gan Alecsandr Solzhenitsyn,(Алекса́ндр Иса́евич Солжени́цын) cyfieithwyd gan W Gareth Jones Cyfres Yr Academi 5, Yr Academi Gymreig 1977
  • Feuer, Kathryn (Ed). Solzhenitsyn: A collection of Critical Essays. (1976). Spectrum Books, ISBN 0-13-822619-9
  • Moody, Christopher. Solzhenitsyn. (1973). Oliver and Boyd, Edinburgh ISBN 0-05-002600-3
  • Labedz, Leopold. Solzhenitsyn: A documentary record. (1970). Penguin ISBN 0-14-003395-5
  • Scammell, Michael. Solzhenitsyn. (1986). Paladin. ISBN 0-586-08538-6
  • Solzhenitsyn, Aleksandr. Invisible Allies. (Translated by Alexis Klimoff and Michael Nicholson). (1995). The Harvill Press ISBN 1-86046-259-6
  • Grazzini, Giovanni. Solzhenitsyn. (Translated by Eric Mosbacher) (1971). Michael Joseph, ISBN 0-7181-1068-4
  • Burg, David; Feifer, George. Solzhenitsyn: A Biography. (1972). ISBN 0-340-16593-6
  • Medvedev, Zhores. 10 Years After Ivan Denisovich. (Translated by Hilary Steinberg). (1973). Macmillan, London.SBN 33-15217-4
  • Rothberg, Abraham. Aleksandr Solzhenitsyn: The Major Novels. (1971). Cornell University Press. ISBN 0-8014-0668-4