Un Bore Mercher
Un Bore Mercher | |
---|---|
Adnabuwyd hefyd fel | Keeping Faith |
Genre | Drama |
Ysgrifennwyd gan | Matthew Hall |
Serennu | Eve Myles Hannah Daniel Bradley Freegard Mark Lewis Jones Aneirin Hughes Betsan Llwyd Rhian Morgan Eiry Thomas Alex Harries |
Cyfansoddwr/wyr | Laurence Love Greed Amy Wadge |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg Saesneg |
Nifer cyfresi | 3 |
Nifer penodau | 20 (Rhestr Penodau) |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Pip Broughton Nora Ostler |
Golygydd | Mike Hopkins Kevin Jones Pedr James |
Lleoliad(au) | Sir Gaerfyrddin Talacharn Abertawe Bro Morgannwg |
Sinematograffeg | Steve Lawes Bjørn Ståle Bratberg Steve Taylor |
Amser rhedeg | 60 munud (yn cynnwys hysbysebion) |
Cwmnïau cynhyrchu |
Vox Pictures |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C (Cymraeg) BBC One (Saesneg) |
Fformat llun | 1080i (16:9 HDTV) |
Darllediad gwreiddiol | 5 Tachwedd 2017 | – 6 Rhagfyr 2020
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Rhaglen ddrama ddirgelwch yw Un Bore Mercher wedi ei leoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n gyd-gomisiwn rhwng S4C a BBC Cymru, ac fe dangoswyd fersiwn Saesneg o dan y teitl Keeping Faith. Fe'i darlledwyd y tair cyfres ar rwydwaith teledu BBC One, y tro cyntaf i gynhyrchiad drama teledu ar y cyd rhwng BBC Cymru / S4C wneud hynny.
Mae’r stori yn adrodd hanes Faith (Eve Myles) wrth iddi ymchwilio i ddiflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr. Wrth chwilio am y gwir mae'n darganfod cyfrinachau ac yn dechrau amau os yw'n nabod ei gŵr o gwbl. Mae'r gyfreithwraig Faith yn troi'n dditectif wrth frwydro i ddarganfod y gwir, ac yn cesio amddiffyn ei phlant rhag y goblygiadau hefyd. Ond ble, ac i bwy mae Faith yn perthyn? Yn y gyfres olaf, nid yn unig y byddwn yn ei gweld fel gwraig a mam, ond fel merch hefyd.
Enillodd y gyfres cyntaf tair gwobr BAFTA Cymru ym mis Hydref 2018; am Actores (Eve Myles), Cerddoriaeth wreiddiol (Amy Wadge a Laurence Love Greed) ac Awdur (Matthew Hall).[1]
Cynhyrchiad
[golygu | golygu cod]Crewyd ac ysgrifennwyd y stori gan Matthew Hall (Kavanagh QC) ac fe'i haddaswyd i'r Gymraeg gan Anwen Huws (Gwaith/Cartref, Pobol y Cwm)[2] Maggie Russell yw'r Cynhyrchydd Gweithredol ar gyfer BBC Wales, Gwawr Martha Lloyd ar gyfer S4C ac Adrian Bate ar gyfer Vox Pictures.
Cafodd y cynhyrchiad ei ariannu gan S4C, BBC Cymru a thrwy Gyllid Buddsoddi yn y Cyfryngau Llywodraeth Cymru, wedi eu cynghori gan Pinewood Pictures. Gwnaed yr holl waith ffilmio mewn lleoliadau o amgylch Cymru gyda'r gwaith ôl-gynhyrchu yng Nghymru hefyd.[3]
Ffilmiwyd y gyfres ar yr un pryd mewn dwy iaith. Y rhaglen hon yw'r ail mewn tymor o ddramâu dwyieithog a osodir i berfformio yn ôl ar S4C. Mae'r gyfres wedi bod ar gael ar BBC iPlayer fel rhan o berthynas barhaus y BBC ag S4C.
Cafodd y fersiwn Saesneg ei hailenwi yn Keeping Faith, ac fe ddarlledwyd am y tro cyntaf ar BBC Cymru ar 13 Chwefror 2018. Roedd y sioe yn hynod boblogaidd yng Nghymru, gyda chyfartaledd o 300,000 o wylwyr yn gwylio pob pennod, gan ei wneud y sioe fwyaf poblogaidd ar BBC Cymru ers dros 25 mlynedd. Daeth hefyd yn hynod o boblogaidd ar rwydwaith y BBC iPlayer, gyda dros 8.5 miliwn o sesiynau gwylio erbyn Mai 2018.
Ar ôl cyhoeddi ar 15 Mehefin 2018 y byddai Keeping Faith yn cael ei ddangos yn y DU gyfan ar BBC One, dechreuodd ei ddarllediad ar 10 Gorffennaf 2018, gyda dros 4 miliwn o bobl yn gwylio pob pennod. Dywedodd Pennaeth Comisiynu BBC Cymru, Nick Andrews, fod y gyfres hon wedi bod yn drysor go iawn o'r dechrau i'r diwedd, ac mae'n dyst i gryfder y ddrama sy'n dod allan o Gymru ar hyn o bryd. Enillodd y gyfres dair BAFTA Cymru yn 2018. Dechreuwyd cynhyrchu'r ail gyfres ym mis Medi 2018 [4] ac fe'i darlledwyd ar S4C yn dechrau mis Mai 2019. Dangoswyd fersiwn Saesneg Keeping Faith ar BBC One Wales yng Ngorffennaf ac Awst 2019.
Cyhoeddwyd ar 24 Ionawr 2020 bod trydedd cyfres wedi'i chomisiynu ac mai hwn fydd yr olaf. Bydd Celia Imrie yn ymuno a'r cast.[5] Dechreuwyd cynhyrchu'r ail gyfres ym mis Ionawr 2020, ac fe darlledwyd y bennod cyntaf ar 1 Tachwedd 2020.
Cast[6]
[golygu | golygu cod]- Eve Myles - Faith Howells
- Bradley Freegard - Evan Howells
- Demi Letherby - Alys Howells
- Lacey Jones - Megan Howells
- Oscar a Harry Unsworth - Rhodri Howells
- Mark Lewis Jones - Steve Baldini
- Hannah Daniel - Cerys Jones
- Aneirin Hughes - Tom Howells
- Rhian Morgan - Marion Howells
- Catherine Ayres - Lisa Connors
- Eiry Thomas - DI (Cyfres 1) /PC (Cyfres 2) /DS (Cyfres 3) Susan Williams
- Alex Harries - Arthur Davies
- Betsan Llwyd - Delyth Lloyd (Cyfres 1–2)
- Steffan Rhodri - Gwyn Daniels (Cyfres 1–2)
- Matthew Gravelle - Terry Price (Cyfres 1)
- Mali Harries - Bethan Price (Cyfres 1)
- Richard Elfyn - DCI Huw Parry (Cyfres 1)
- Kizzy Crawford - PC Emma Jones (Cyfres 1)
- Lowri Palfrey - Erin Glynn (Cyfres 1)
- Angeline Ball (Cyfres 1) / Anastasia Hille (Cyfres 2) - Gael Reardon
- Menna Trussler - Eira Jones (Cyfres 1)
- Shelley Rees-Owen - DS Morgan (Cyfres 1)
- Martha Bright - Angie Baldini (Cyfres 2–3)
- Rhashan Stone - DI Laurence Breeze (Cyfres 2–3)
- Aimee-Ffion Edwards - Madlen Vaughan (Cyfres 2)
- Brochan Evans - Dyfan Vaughan (Cyfres 2)
- Richard Lynch - Hayden Swancott QC (Cyfres 2)
- Rhian Blythe - Anya Flye (Cyfres 2)
- Rebecca Harries - Hannah Lewis (Cyfres 2)
- Alun ap Brinley - Geraint Jernigan (Cyfres 2)
- Celia Imrie - Rose Fairchild (Cyfres 3)
- Matthew Aubrey - Mike Taylor (Cyfres 3)
- Keogh Kiernan - Osian Taylor (Cyfres 3)
- Siôn Daniel Young - Gareth (Cyfres 3)
- Maria Pride - Julie Penry (Cyfres 3)
- Marc Antolin - Prof. Rhys (Cyfres 3)
- Siân Phillips - Y Barnwraig Owens (Cyfres 3)
Penodau
[golygu | golygu cod]Cyfres 1 (2017)
[golygu | golygu cod]# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr S4C [7] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 5 Tachwedd 2017 | 46,000 |
Mae Faith yn gyfreithwraig, mam a gwraig sy'n cael ei thynnu i mewn i ddirgelwch pan fo'i gŵr, Evan, yn diflannu. Wrth chwilio am y gwir, mae'n darganfod bod ganddo gyfrinachau lu ac mae'n dechrau cwestiynu a ydy hi'n ei adnabod o gwbl. | |||||
2 | "Pennod 2" | Pip Broughton | Matthew Hall & Sian Naiomi | 12 Tachwedd 2017 | 37,000 |
Wrth i'r heddlu ddod i amau Faith, mae hi'n cwrdd â'r cyn-droseddwr, Steve Baldini, sydd wedi dod i nabod Evan yn ddiweddar. Yn y cyfamser, mae Tom yn poeni am yr hyn mae'n ei ddarganfod yn archifau'r cwmni. Mae DI Susan Williams, sydd wedi anghytuno gyda Faith yn y gorffennol, yn dechrau troi ei sylw at y teulu Howells. | |||||
3 | "Pennod 3" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 19 Tachwedd 2017 | <20,000 |
Mae'r gwrthdaro rhwng Faith a DI Williams yn parhau pan mae Faith yn amddiffyn gweinidog sydd wedi ei gyhuddo o ladrata. Ac ar ôl darganfod cit prawf DNA yn swyddfa Evan, mae Faith yn wynebu Marion ac yn dadorchuddio hen gyfrinach. | |||||
4 | "Pennod 4" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 26 Tachwedd 2017 | 36,000 |
Mae Faith yn gorfod derbyn y ffaith bod Evan wedi bod yn ymwneud â theulu troseddol adnabyddus ac mae Bethan yn delio ag oblygiadau cyfrinach ei mam. Mae DI Williams yn casglu tystiolaeth yn erbyn Faith. | |||||
5 | "Pennod 5" | Andy Newbery | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 3 Rhagfyr 2017 | 32,000 |
Mae Faith yn amddiffyn hen ffarmwr sydd wedi ei ddal mewn anghydfod gyda pherchennog y tir mae wedi ei drin ers blynyddoedd. Mae Arthur yn cael ychydig o lwc am unwaith ac mae Dr Alpay yn cynnig gwybodaeth am Evan - am bris. | |||||
6 | "Pennod 6" | Andy Newbery | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 10 Rhagfyr 2017 | <24,000 |
Pan ddaw'r heddlu o hyd i gar Evan yn y dociau mae Faith yn cael ei holi'n dwll. Mae Steve yn rhoi ei fywyd yn y fantol i'w helpu er gwaethaf rhybuddion Tom; mae Bethan yn closio at gleient ac mae Williams yn benderfynol o ddial ar Faith. | |||||
7 | "Pennod 7" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 17 Rhagfyr 2017 | 22,000 |
Gydag Alpay bellach wedi marw, mae Williams yn benderfynol o roi'r bai ar Faith. Mae Terry'n cwrdd â DCI Parry ac mae Steve yn dychwelyd i'w orffennol troseddol i helpu Faith. Mae Faith yn teimlo'n fwy ynysig nag erioed wrth i'r achos llys nesau. | |||||
8 | "Pennod 8" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 24 Rhagfyr 2017 | 23,000 |
Mae Faith yn brwydro i gael ei phlant yn ôl mewn achos llys chwerw sy'n bygwth difetha'r teulu Howells. Mae Steve yn dod i gytundeb gyda'i hen gyflogwyr troseddol, ac o'r diwedd daw Faith i wybod y gwir am ddiflaniad ei gŵr. |
Cyfres 2 (2019)
[golygu | golygu cod]# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr S4C [7] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 12 Mai 2019 | 64,000 |
Rydym yn ail-gydio yn stori Faith Howells 18 mis ar ôl i'w gŵr Evan ddychwelyd i Abecorran mewn da bryd i weld ei wraig ym mreichiau Steve Baldini. Mae Evan wedi tynnu Faith mewn i fyd tywyll a pheryglus ac mae hi dal yn talu'r pris. | |||||
2 | "Pennod 2" | Judith Dine | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 19 Mai 2019 | 50,000 |
Ar ôl i Madlen ddiswyddo ei chyfreithwyr mae Faith, gyda chefnogaeth Cerys, yn camu i'r adwy ac yn derbyn ei achos llofruddiaeth, sy'n arwain at wrthdrawiad penben â Tom. Yn y carchar, mae Evan yn derbyn newyddion da gan gymwynaswr cudd, mae Steve yn dal i hiraethu am Faith, tra bod y berthynas bryderus rhwng Faith a Gael Reardon yn hoelio sylw DI Breeze. | |||||
3 | "Pennod 3" | Judith Dine | Pip Broughton (addasiad Anwen Huws) | 26 Mai 2019 | 38,000 |
Wrth i'r treial gyrraedd ei anterth, mae Faith yn brwydro i atal Madlen rhag dystio. Wrth i'r dyfarniad nesáu, mae cyfeillgarwch Faith a Cerys yn cael ei wthio i'r dibyn. Yn y cyfamser mae DI Breeze yn parhau i chwilota i mewn i berthynas Faith â Gael Reardon. Mae Steve yn ceisio rheoli ei deimladau tuag at Faith; a daw newyddion oddi wrth Evan sy'n bygwth ysgwyd y teulu unwaith eto. | |||||
4 | "Pennod 4" | Pip Broughton | Pip Broughton (addasiad Anwen Huws) | 2 Mehefin 2019 | 35,000 |
Mae diwrnod rhyddhau Evan o'r carchar yn nesáu ac mae Faith yn brwydro i gadw ei theulu ynghyd, a ffrwyno ei theimladau tuag at Steve. Mae DI Breeze yn parhau i roi pwysau ar Evan; ac mae gan PC Williams newyddion annifyr sy'n bygwth siglo achos Madlen. | |||||
5 | "Pennod 5" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 9 Mehefin 2019 | 40,000 |
Ymhlith llanast dychweliad Evan, mae Faith yn datguddio newyddion sy'n peri pryder wrth iddi barhau i chwilota'r gwir yn achos Madlen. Yn ôl adref, mae Evan yn cael trafferth wrth geisio cael ei draed dan y bwrdd unwaith eto; mae'r Reardons yn bygwth difetha dêl Corran Energy; ac wrth i DI Breeze roi mwy o bwysau ar Faith ag Evan, mae Steve yn penderfynu chwarae gêm beryglus. | |||||
6 | "Pennod 6" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 16 Mehefin 2019 | 45,000 |
Gydag amser yn brin, mae Faith ar ras i geisio cloi'r ddêl gyda Corran Energy a darganfod y fenyw a all droi dedfrydiad Madlen ar ei ben. Mae DI Breezy yn gwneud un cynnig olaf i Evan, tra bod Steve yn cynllwynio i gael gwared â'r Reardons unwaith ac am byth. Mae Tom a Lisa yn wynebu'r gwir am eu perthynas, ac mae Faith, o'r diwedd, yn darganfod y gwir y tu ôl i lofruddiaeth Wil. |
Cyfres 3 (2020)
[golygu | golygu cod]# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr S4C [7] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Pip Broughton | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 1 Tachwedd 2020 | 51,000 |
Mae'n 18 mis ers i ni ymweld ag Abercorran ddiwethaf ac mae trefniadau ysgariad a gwarchodaeth plant Faith ac Evan yn mynd o ddrwg i waeth. Mae Faith yn ceisio cadw'n bositif wrth fod yn fam ac yn gyfreithwraig sy'n delio ag achos newydd, pan mae rhywun o'i gorffennol yn ymddangos ac yn peryglu ei dyfodol. | |||||
2 | "Pennod 2" | Pip Broughton | Pip Broughton (addasiad Anwen Huws) | 8 Tachwedd 2020 | 34,000 |
Wedi ei hysgwyd gan ymdddangosiad Rose, mae Faith yn ceisio cadw rheolaeth ar ei hemosiynau a chanolbwyntio ar achos Osian. Mae Evan yn penderfynu cadw llygaid barcud ar symudiadau Faith tra bo Steve yn ceisio delio gyda'i euogrwydd. | |||||
3 | "Pennod 3" | Judith Dine | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 15 Tachwedd 2020 | <23,000 |
Tra bo meddwl Faith ar helpu Mike gael cyfiawnder i Osian a chadw Rose i ffwrdd o'r teulu, mae hi'n colli golwg ar yr effaith mae'r ysgariad yn cael ar y plant - sy'n diweddu gyda Alys yn dod i sylw'r heddlu. Mae Rose yn parhau i groesi Faith. | |||||
4 | "Pennod 4" | Pip Broughton | Pip Broughton (addasiad Anwen Huws) | 22 Tachwedd 2020 | 19,000 |
Mae Faith a Cerys yn cyrraedd Llys yr Apel yn Llundain yng ngham nesaf ymgyrch gyffreithiol Osian. Tra yn Llundain mae Faith yn cyfarfod â hen ffrind all roi gwybodaeth iddi am Rose. A parhau mae cynllun Evan o wylio Faith, tra bo Steve yn closio gyda Alys. | |||||
5 | "Pennod 5" | Judith Dine | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 29 Tachwedd 2020 | 28,000 |
Yn anhapus nad yw Faith yn ymateb i'w chais i glirio'r aer mae Rose yn rhoi'r ail ran o'i chynllun a'r waith, sy'n rhoi dyfodol Evan a Steve mewn peryg. Mae amser yn brin i Osian felly mae Mike yn gwneud penderfyniad anodd. | |||||
6 | "Pennod 6" | Judith Dine | Matthew Hall (addasiad Anwen Huws) | 6 Rhagfyr 2020 | 34,000 |
Mae cynllun Rose yn dwyshau ac felly mae Faith yn gorfod ymladd am bopeth sy'n bwysig iddi. All hi ennill y blaen ar Rose neu oes gan honno fwy o asgwrn cefn na mae Faith yn ei gredu' Naill ffordd, mae bywyd yn dod â chanlyniadau annisgwyl i Faith wrth iddi edrych tua'r dyfodol. |
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Cyfansoddwyd dwy albwm wreiddiol ar gyfer y rhaglen gan y canwr a chyfansoddwraig Amy Wadge. Bu Ela Hughes yn canu'r fersiynau Cymraeg ac Amy Wadge yn canu’r fersiynau Saesneg. Ysgrifennwyd y gerddoriaeth gan Laurence Love Greed.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Teitl | Fformat | Label | Dyddiad ryddhau |
---|---|---|---|
Un Bore Mercher | Albwm, CD | Cold Coffee Music Limited | 2 Mawrth 2018 |
Un Bore Mercher 2 | Albwm, CD | Cold Coffee Music Limited | 30 Awst 2019 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwobrau BAFTA Cymru 2018 – yr enillwyr , Golwg360, 15 Hydref 2018.
- ↑ Lleoli drama ddirgelwch newydd yn Sir Gaerfyrddin , Golwg360, 14 Ebrill 2017. Cyrchwyd ar 11 Tachwedd 2017.
- ↑ Filming starts on new joint BBC Wales and S4C drama series. BBC Wales (13 Ebrill 2017). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2017.
- ↑ Ail gyfres Un Bore Mercher/ Keeping Faith mewn cynhyrchiad. S4C (4 Hydref 2018).
- ↑ Un Bore Mercher / Keeping Faith yn dychwelyd am y tro olaf. S4C (24 Ionawr 2019).
- ↑ S4C - un bore mercher. S4C. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2017.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Un Bore Mercher ar Twitter
- Un Bore Mercher ar y BBC iPlayer
- (Saesneg) Un Bore Mercher ar wefan Internet Movie Database