Uludağ
Gwedd
Math | mynydd, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bursa |
Gwlad | Twrci |
Uwch y môr | 2,542 metr |
Cyfesurynnau | 40.0705°N 29.222°E |
Amlygrwydd | 1,504 metr |
Statws treftadaeth | Important Bird Area |
Manylion | |
Mynydd yn Nhwrci yw Uludağ (a elwir hefyd yn Keşiş Dağı, 'Mynydd y Mynachod'). Mae'n gorwedd 2543 medr uwch lefel y môr, sy'n ei wneud y mynydd uchaf yng ngorllewin Twrci. Ystyr ei enw yw 'Mynydd Uchel' (ulu "uchel, dyrchafedig" dağ "mynydd"). Mae'n gorwedd tua 30 km i'r de o ddinas Bursa ac mae'n nodi ffin talaith Bursa.
Mae prif grib y mynydd yn ymestyn am 15 km gyda lled o hyd at 3 km. Enw'r copa uchaf yw 'Kartaltepe' ("Copa'r Eryr"). Ceir canolfannau sgïo ar ei lethrau.
Yn yr Henfyd, adnabyddid Uludağ fel 'Olympus Mysia' neu 'Olympus Bithynia'. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd, roedd ei lethrau yn gartref i sawl cymuned o fynachod cynnar yn arfer meudwyaeth ascetig.