Neidio i'r cynnwys

Trydan statig

Oddi ar Wicipedia
Trydan statig
Mae llithro yn erbyn y sleid wedi achosi i bob blewyn o wallt y plentyn dderbyn gwefr bositif ac felly mae nhw'n gwrthyrru. Yn ogystal â hyn, mae plastig y sleid wedi ei wefru'n bositif ac felly mae'r gwallt positif yn cael ei atynnu ato.
Mathtrydan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Gwefr drydanol yn anghydbwysedd o wefr drydanol o fewn neu ar arwyneb defnydd. Mae'r wefr statig yma'n parhau yn y gwrthrych nes ei fod yn llifo i'r ddaear neu'n cael ei niwtraleiddio. Pan gaiff dau ddefnydd ynysu eu rhwbio yn erbyn ei gilydd, caiff electronnau eu "crafu" oddi ar un defnydd a'u rhoi ar y llall. Hyn sy'n rhoi gwefr bositif i'r naill a negatif i'r llall. Mae'r ffordd y mae'r electronnau'n cael eu trosglwyddo yn ddibynnol ar y defnyddiau e.e. gyda rhoden bolythen mae'r electronnau'n symud o ddefnydd clwt i'r rhoden bolythen. Gyda rhoden asetat mae'r elcetronnau'n llifo ohono.

Gellir cynhyrchu trydan statig drwy rwbio dau wrthrych yn erbyn ei gilydd e.e. balŵn yn erbyn wal, neu drwy beiriant arbennig megis peiriant Van de Graaff. Yn y rhaglen Dr Who, mae'r Daleks yn cael eu hynni o drydan statig.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.