Trychineb Chernobyl
Enghraifft o'r canlynol | nuclear disaster, environmental disaster |
---|---|
Dyddiad | 26 Ebrill 1986 |
Lladdwyd | 4,000 |
Lleoliad | Chernobyl Nuclear Power Plant |
Rhanbarth | Kyiv Oblast |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Damwain adweithydd niwclear yn Atomfa Chernobyl yn Wcráin, a oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd bryd hynny oedd Trychineb Chernobyl. Ystyrir y drychineb fel y drychineb waethaf erioed mewn gorsaf ynni niwclear ac un o ddim ond dwy damwain lefel 7 ar Raddfa Digwyddiad Niwclear Rhyngwladol. Achosodd i lawer iawn o ddeunydd ymbelydrol gael ei ryddhau yn sgîl gwyriadau pŵer enfawr a ddinistriodd yr adweithydd. Bu farw dau berson o ganlyniad i'r ffrwydriad stêm cychwynnol, ond priodolir y rhan fwyaf o'r marwolaethau i ymbelydredd.
Ar 26 Ebrill 1986 am 01:23:45 a.m. (UTC 3), ffrwydrodd adweithydd rhif pedwar yng ngorsaf ynni Chernobyl, ger Pripyat yng Ngweriniaeth Sofietaidd Wcráin. Bu ffrwydriadau pellach a achosodd i dân ddanfon cymylau o fŵg hynod ymbelydrol i'r atmosffer gan orchuddio ardal ddaearyddol eang. Rhyddhawyd bedwar can gwaith mwy o ymbelydredd nag a wnaed gan Fom Atomig Hiroshima ym 1945.[1]
Symudodd y mwg dros rannau helaeth o orllewin yr Undeb Sofietaidd, Dwyrain Ewrop, Gorllewin Ewrop, Gogledd Ewrop a rhan ddwyreiniol Gogledd America, gyda glaw niwclear ysgafn yn glanio yn Iwerddon hefyd. Llygrwyd rhannau helaeth o'r Wcrain, Belarws a Rwsia, gan achosi i dros 336,000 o bobl fudo ac ymgartrefi mewn llefydd eraill. Yn ôl data swyddogol ôl-Sofiet, glaniodd tua 60% o'r ymbelydredd ym Melarws.[2]
Arweiniodd y drychineb at nifer o bobl yn mynegi pryder am y diwydiant ynni niwclear yn yr Undeb Sofietaidd, a arafodd ddatblygiad ynni niwclear yno am nifer o flynyddoedd, a chan orfodi'r llywodraeth Sofietaidd i fod yn llai cyfrinachol. Mae Rwsia, yr Wcrain a Belarws wedi gorfod ymdrin â'r broses sylweddol o ddi-heintio a'r costau meddygol sylweddol a ddaeth yn sgîl trychineb Chernobyl. Mae'n anodd priodoli nifer pendant o farwolaethau oherwydd trychineb Chernobyl, am fod ymdrehcion y llywodraeth Sofietaidd i gelu'r ystadegau wedi ei wneud yn anodd tracio'r holl ddioddefwyr. Roedd rhestrau'n anghyflawn, ac yn ddiweddarach gwaharddwyd doctoriaid rhag nodi "ymbelydredd" ar dystygrifau marw gan yr awdurdodau Sofietaidd.[3]
Amcangyfrifir fod yr holl drychineb wedi costio $200 biliwn ($UDA), o gymryd chwyddiant i mewn i ystyriaeth. Mewn adroddiad yn 2005 a gynhyrchwyd gan Fforwm Chernobyl, o dan arweiniad yr Asiantaeth Ynni Niwclear Rhyngwladol a Chyfundrefn Iechyd y Byd, priodolwyd 56 marwolaeth yn uniongyrchol i'r drychineb (47 o weithiwyr adeg y ddamwain a naw o blant gyda chancr y thyroid, ac amcangyfrifir y gallai fod 4,000 o farwolaethau eraill o gancr o'r 600,000 posib a oedd wedi profi'r ymbelydredd.[4] Er fod rhannau o Chernobyl na ellir mynd iddynt o hyd, ystyrir y rhan fwyaf o ardaloedd a effeithiwyd bellach yn ddiogel i fyw yno ac ar gyfer gweithgarwch economaidd.[5]
Yr effaith yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Effeithiodd y ddamwain ar ddiwydiant amaeth rhan sylweddol o Ewrop, gan gynnwys gwledydd Prydain. Un o'r ardaloedd yr effeithwyd arni yn ddrwg oedd gogledd Cymru. Disgynodd glaw yn cynnwys deunydd ymbelydrol ar yr ucheldiroedd. O ganlyniad, cyfyngwyd ar weithgarwch 5,100 o ddaliadau fferm a 2,000,000 o ddefaid. Rhoddwyd gwaharddiad ar werthu oen a defaid i'w bwyta neu eu symud y tu allan i'r ardaloedd penodedig oherwydd y lefelau uchel o radiocaesiwm yn eu cyrff. Yn 2006, ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd 359 daliad a 180,000 o ddefaid yng ngogledd Cymru yn dal oddi mewn i'r ardaloedd cyfyngedig.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- [[Parth aberthu]
- Trychineb Niwclear Fukushima
- Wraniwm
- Rhestr o wledydd gyda phwer niwclear
- Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol
- Ynni niwclear
- Atomfa'r Wylfa, Môn
- Atomfa Trawsfynydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg)Inside Chernobyl. National Geographic. Ebrill 2006. Adalwyd ar 04-07-2009
- ↑ (Saesneg) Geographical location and extent of radioactive contamination Archifwyd 2007-06-30 yn y Peiriant Wayback. Asiantaeth y Swistir am Ddatblygiad a Chydweithrediad. http://www.chernobyl.info/index.php?navID=2 Archifwyd 2007-06-30 yn y Peiriant Wayback. (gan ddyfynnu'r "Committee on the Problems of the Consequences of the Catastrophe at the Chernobyl NPP: 15 Years after Chernobyl Disaster", Minsk, 2001, p. 5/6 ff., and the "Chernobyl Interinform Agency, Kiev und", a "Chernobyl Committee: MailTable of official data on the reactor accident"). Adalwyd 04-07-2009
- ↑ (Saesneg) Folks near Chernobyl still cloudy about health Archifwyd 2010-12-28 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 04-07-2009
- ↑ (Saesneg) At Chernobyl, Global Support for Recovery Moves to Next Phase. Adroddiad IAEA. ADalwyd ar 04-07-2009
- ↑ (Saesneg) The Chernobyl Forum: 2003-2005. Chernobyl's Legacy: Health, Environmental, and Socio-Economic Impacts and Recommendations to the Governments of Belarws, the Russian Federation and UkrainePDF. IAEA. 2nd revised version. td. 6.
- ↑ "Monitro a Rheoli Ôl-Chernobyl: Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-05. Cyrchwyd 2009-07-04.