Trwydded meddalwedd
Mae trwydded meddalwedd yn offeryn statudol sy'n rheoli ailddosbarthu meddalwedd a'r defnydd a wneir ohoni. Ar wahân i feddalwedd yn y parth cyhoeddus, yn y rhan fwyaf o wledydd, mae pob meddalwedd yn cael ei warchod dan hawlfraint, yn y ffurf cod ffynhonnell a chod y gwrthrych (object code). Fel arfer, mae'r trwydded meddalwedd yn rhoi'r hawl i'r defnyddiwr (y term cyfreithiol yw 'y trwyddedig') i ddefnyddio un neu ragor o gopiau o'r feddalwedd; heb y drwydded, byddai defnyddio'r feddalwedd o bosib yn drosedd.
Deddfau hawlfraint
[golygu | golygu cod]Dan gyfraith hawlfraint, y ddau brif gategori yw:
- meddalwedd perchnogol, a werthir gan amlaf
- meddalwedd cod ffynhonnell rhydd ac am ddim (FOSS, sef free and open-source software)
Y gwahaniaeth cysyniadol amlwg rhwng y ddau yw yr hawliau i addasu ac ailddefnyddio'r meddalwedd, gan gwsmer. Mae trwyddedau FOSS yn caniatáu i'r cwsmer wneud y ddau beth yma. Ar y llaw arall, nid yw meddalwedd perchnogol, fel arfer, yn caniatáu'r naill na'r llall, a chuddir y cod ffynhonnell. Fel arfer mae meddalwedd ar drwydded FOSS yn rhoi'r cod mewn ffeil ar gyfer y defnyddiwr. Gelwir cod meddalwedd perchnogol, fodd bynnag, yn "ffynhonnell gaeedig".
Yn ogystal â rhoi hawliau a gosod cyfyngiadau ar ddefnyddio meddalwedd â hawlfraint arno, fel arfer mae trwyddedau meddalwedd yn cynnwys darpariaethau sy'n dyrannu atebolrwydd a chyfrifoldeb rhwng y partïon sy'n ymrwymo i gytundeb y drwydded. Mewn testun trwydded meddalwedd masnachol, yn aml yn cyfyngu atebolrwydd, y gwarantau ac ymwadiadau gwarantau, ac indemniad - os yw'r feddalwedd yn torri hawliau eiddo deallusol unrhyw un.
Yr hawliau a roddir | Parth cyhoeddus | Trwyddedau Goddefol FOSS |
Trwyddedau Hawlfraint (Copyleft) FOSS (e.e. GPL) |
Rhadwedd/Rhanwedd/ Freemium |
Trwyddedau meddalwedd perchnogol | Masnachu Trade secret |
---|---|---|---|---|---|---|
Cedwir yr Hawlfraint | Na | Ie | Ie | Ie | Ie | llym iawn |
Yr hawl i berfformio | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Na |
Yr hawl i arddangos | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Na |
Yr hawl i gopio | Ie | Ie | Ie | Yn aml | Na | Ceir llawer o achosion llys |
Yr hawl i addasu | Ie | Ie | Ie | Na | Na | Na |
Yr hawl i ailddefnyddio | Ie | Oes, dan yr un drwydded | Oes, dan yr un drwydded | Yn aml | Na | Na |
Yr hawl i aildrwyddedu | Ie | Ie | Na | Na | Na | Na |
Meddalwedd enghreifftiol | SQLite, ImageJ | Apache web server, ToyBox | Linux kernel, GIMP, OBS | Irfanview, Winamp, League of Legends | Windows, a'r rhan fwyaf o gemau masnachol, a'u DRMs, Spotify, xSplit, TIDAL | Server-side Cyfrifiaduro yn y Cwmwl Gemau gan Blizzard Entertainment, Rockstar, Activision, etc. PlayStation Network a Xbox Live |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Larry Troan (2005). "Open Source from a Proprietary Perspective" (PDF). RedHat Summit 2006 Nashville. redhat.com. t. 10. Archifwyd o'r gwreiddiol (pdf) ar 2014-01-22. Cyrchwyd 2015-12-29.