Neidio i'r cynnwys

Troellwyr

Oddi ar Wicipedia
Troellwyr
Cudylldroellwr, Chordeiles minor, a Whiparwhîl, Caprimulgus vociferus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Caprimulgiformes
Teulu: Caprimulgidae
Isdeuluoedd
Dosbarthiad

Teulu o adar hwyrol yw Troellwyr (Lladin: Caprimulgidae). Mae ganddyn nhw dair nodwedd sy'n gyffredin: adenydd hir, coesau byr a phigau byr. Maent yn nythu ar wyneb y ddaear yn hytrach na mewn coed. Fel arfer, pan sonia Cymro am Droellwr, mae'n cyfeirio at y Troellwr mawr.

Y gair Lladin am berson neu anifail sy'n sugno tethi gafr yw Caprimulgus a chredai'r hen Rufeiniaid fod aelodau'r teulu hwn yn yfed llaeth geifr. A dyna sut y cawsant yr enw gwyddonol. Gelwir rhai o Droellwyr y Byd Newydd yn 'Gudylldroellwyr.

Mae'r Troellwyr i'w canfod ledled y byd. Maen nhw'n hedfan yn y cyfnos neu yn y bore bach ac yn bwyta pryfaid mawr fel gwyfynnod.

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Caprimulgus fraenatus Caprimulgus fraenatus
Troellwr Bates Caprimulgus batesi
Troellwr Bonaparte Caprimulgus concretus
Troellwr Franklin Caprimulgus affinis
Troellwr India Caprimulgus asiaticus
Troellwr Vaurie Caprimulgus centralasicus
Troellwr cynffonhir Affrica Caprimulgus climacurus
Troellwr cynffonhir Asia Caprimulgus macrurus
Troellwr cynffonhir India Caprimulgus atripennis
Troellwr cynffonsgwar Caprimulgus fossii
Troellwr gyddfgoch Caprimulgus ruficollis
Troellwr jyngl Asia Caprimulgus indicus
Troellwr llostfain Caprimulgus clarus
Troellwr mawr Caprimulgus europaeus
Troellwr yr Aifft Caprimulgus aegyptius
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]