Tro clip gwallt
Gwedd
Tro neu gornel eithafol ar y ffordd fawr ydy tro clip gwallt neu gornel cara esgid (Saesneg: hairpin bend). Bathwyd y gair ar y rhaglen 'Seiclo: La Tour de France' ar S4C yng Ngorffennaf 2014. Trosiad sydd yma, mewn gwirionedd, sy'n mynegi'r tebygrwydd rhwng rhai corneli siap pedol (bron i 180 gradd) gyda siap clip gwallt modern.
Cânt eu creu ar allt, fel arfer er mwyn caniatâu i'r beic neu'r gerbyd ddringo'r allt ar ogwydd mwy hamddenol na phe baent yn mynd yn uniongyrchol o A i B ar ogwydd neu ongl eithriadol. Mae hyn hefyd yn gwneud y daith yn saffach.
Rhai corneli clip gwallt yn Ewrop
[golygu | golygu cod]- Alpe d'Huez in the French Alps, famous for its 21 hairpin bends
- Stelvio Pass (Almaeneg: Stilfserjoch) gyda'i 48 tro (Eidaleg: tornanti; Almaenegn Spitzkehren) - un o'r enwocaf
- Transfăgărăşan ym mynyddoedd y Fagaras
- Yn Rali Monte Carlo mae'r ceir yn gyrru wysg eu hochor wrth fynd rownd rhai troeon e.e. y Col de Turini
- Ymhlith y ffyrdd anoddaf i seiclwyr mae cyfres o droeon clip gwallt; mae'r rhain yn cynnwys y Tour de France, Giro d'Italia, Tour de Suisse a'r Vuelta a España
- Yn rhaglen Hitchcock To Catch a Thief wrth lethrau'r Alpau nadredda ffyrdd uwch dinas Monaco ac yno hefyd y mae'r 'Loews Hairpin' yn Circuit de Monaco
-
Tro clip gwallt ar Mont Ventoux, Mehefin 2005
-
Dyffryn Columbia
-
Barha Ghumti ar ffordd Tribhuvan, Nepal