Toni Caroll
Toni Caroll | |
---|---|
Ganwyd | 1949 Ystradgynlais |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Actores a chantores o Gymraes yw Toni Caroll (ganwyd 9 Chwefror 1949),[1] sydd fwyaf adnabyddus am ei rhan yn nrama Con Passionate a'r cymeriad Olwen yn Pobol y Cwm.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Carol Ann James yn Ystradgynlais yn unig blentyn i Arthur William James ag Evelyn Llywelyn James. Mynychodd Ysgol Maesydderwen.[2] Yn 15 oed, atebodd hysbyseb yn yr Evening Post a'i gwahoddwyd am glyweliad yn ystafell ddawnsio'r Swansea Embassy. Dechreuodd weithio y diwrnod canlynol gan weithio 7 diwrnod yr wythnos yn y clwb yn ystod bingo a dawnsfeydd. Yno newidiodd ei enw i Toni Caroll.
Yn 1986 ymunodd a Pobol y Cwm fel y cymeriad achlysurol 'Denise', kissogram oedd yn gweithio i gwmni Meic Pierce. Dychwelodd i'r gyfres yn 1991 fel cymeriad tra gwahanol, Olwen Parry aeth ymlaen i redeg y siop. Arhosodd gyda'r gyfres hyd at 1996 gan wneud ymddangosiadau achlysurol wedi hynny.
Yn 2015 fe gyhoeddoedd ei hunangofiant Tynnu Colur (Gwasg Gomer).[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edward Wyman Film and TV Agency.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/p03ghwbb
- ↑ Rees, Mark. Pobol y Cwm star Toni Caroll reveals all in new autobiography (en) , South Wales Evening Post, 16 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2016.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Caroll, Toni (2015). Tynnu Colur. Gwasg Gomer. ISBN 9781848518773. URL