The Company of Wolves
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Neil Jordan |
Cynhyrchydd | Chris Brown Stephen Woolley |
Ysgrifennwr | Angela Carter Neil Jordan |
Serennu | Sarah Patterson Angela Lansbury Stephen Rea David Warner |
Cerddoriaeth | George Fenton |
Sinematograffeg | Bryan Loftus |
Golygydd | Rodney Holland |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | ITC Cannon (UDA) |
Dyddiad rhyddhau | 15 Medi 1984 |
Amser rhedeg | 95 munud |
Gwlad | Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
Ffilm ffantasi gan y cyfarwyddwr Gwyddelig Neil Jordan yw The Company of Wolves (1984). Mae'n seiliedig yn fras ar chwedl Hugan Goch Fach. Ffilm arbrofol gydag elfennau swrealaidd amlwg ydy hi, wedi'i saethu ar set stiwdio arbennig sy'n cynrychioli pentref bychan yng nghanol coedwig ryfeddol. Mae'r ffilm yn serennu Angela Lansbury, Sarah Patterson (fel y ferch ifanc Rosaleen), David Warner, Stephen Rea ac eraill.
Addasiad o straeon am fleidd-ddynion yn y casgliad o straeon byrion The Bloody Chamber gan Angela Carter (yn benodol 'The Company of Wolves', 'Wolf-Alice' a 'The Werewolf') yw The Company of Wolves. Cydysgrifenodd Carter y sgript sgrin gyda Neil Jordan. Mae wedi cael ei disgrifio fel "Hugan Fach Goch i oedolion". Cafodd dderbyniad cymysg gan y beirniaid pan ddaeth allan ond bellach cydnabyddir y ffilm yn glasur yn ei genre.