Teulu'r Mans
Teulu'r Mans | |
---|---|
Genre | Comedi |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 4 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | HTV Cymru |
Amser rhedeg | 25 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 576i (4:3) |
Darllediad gwreiddiol | 1987 – 1993 |
Cyfres deledu comedi sefyllfa Cymraeg oedd Teulu'r Mans. Ysgrifennwyd y gyfres gan Wiliam Owen Roberts a John Pierce Jones. Cynhyrchwyd y gyfres gan HTV Cymru. Darlledwyd cyfresi rhwng Rhagfyr 1987 a Gorffennaf 1992 gyda rhifyn arbennig yn 1993.
Roedd y gyfres wedi ei osod yn y 1960au a prif leoliad y rhaglenni oedd y Mans, Pen y Bryn, Y Llan, cartref y Parchedig J.S. Jones, ei deulu a'r amryw gymeriadau oedd yn ymweld a'r tŷ. Roedd y rhaglen yn ddadleuol yn ei ddydd oherwydd ei bortread o fywyd gweinidog a natur ddychanol y comedi gyda elfennau ffars.
Cyfres radio
[golygu | golygu cod]Roedd cyfres ddrama radio Gymraeg o'r un enw a ddarlledwyd ar Home Service y BBC ar ddiwedd y 1950au.[1] Cast yn cynnwys A. L. Price, Cynddlyan Williams, Dilys Davies, D. L. Davies, Ennis Tinnusche, Evie Lloyd, Kate Jones, Lena Williams, Margaret John, T. H. Evans ac W. Emlyn James.[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- J.S. Jones - Emyr Wyn
- Alwena (gwraig J.S) - Olwen Medi
- Huwi - Michael Povey
- Deiniol - Llion Williams
- Mandi - Janet Aethwy
- Tom - Phylip Hughes
- Anti Elin - Iris Jones
- Parchedig Brifardd Richard Seimons - Huw Ceredig
- P.C. 69 - John Pierce Jones
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Chwiliad Genome am Teulu'r Mans. BBC. Adalwyd ar 22 Tachwedd 2018.
- ↑ "CLIP Cymru". clip.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-08.