Tell England (ffilm)
Poster y ffilm | |
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | du-a-gwyn |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dyddiad cyhoeddi | 1931 |
Genre | ffilm ryfel, ffilm ddrama |
Lleoliad y gwaith | Twrci, Lloegr |
Hyd | 80 munud |
Cyfarwyddwr | Anthony Asquith, Geoffrey Barkas |
Cynhyrchydd/wyr | Harry Bruce Woolfe |
Cwmni cynhyrchu | British Instructional Films |
Cyfansoddwr | Hubert Bath |
Dosbarthydd | Associated British Picture Corporation |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Mae Tell England yn ffilm ddrama Saesneg o 1931 a gyfarwyddwyd gan Anthony Asquith a Geoffrey Barkas [1] ac sy'n serennu Fay Compton, Tony Bruce a Carl Harbord.[2] Mae'n seiliedig ar y nofel Tell England gan Ernest Raymond. Mae'r ffilm yn adrodd hanes dau ddyn ifanc yn ymuno â'r fyddin, ac yn cymryd rhan yn yr ymladd yn Gallipoli yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.[3] Roedd gan y ddau gyfarwyddwr atgofion personol am y frwydro yn Gallipoli, fel yr oedd gan Compton Mackenzie, brawd Fay Compton. Roedd tad Asquith, H H Asquith, yn Brif Weinidog y DU ar adeg y glanio yn Gallipoli,[4] ffaith a dynnodd sylw’r wasg at y ffilm, tra bod Barkas wedi ymladd ei hun ym Mae Suvla yn ystod ymgyrch Gallipoli.
Yn yr Unol Daleithiau cafodd ei ryddhau o dan y teitl amgen The Battle of Gallipoli.
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Yn wreiddiol, bwriadwyd i'r ffilm i fod yn Ffilm fud, ond cafodd ei gohirio. Fe’i cynhyrchiwyd yn Welwyn Studios gan ddefnyddio proses Klangfilm yr Almaen. Saethwyd llawer o'r ffilm ar leoliad ym Malta, a oedd yn sefyll i mewn dros Gallipoli.
Cast
[golygu | golygu cod]- Fay Compton fel Mrs. Doe
- Tony Bruce fel Rupert Ray
- Carl Harbord fel Edgar Doe
- Dennis Hoey fel Y Padre
- CM Hallard fel Y Cyrnol
- Gerald Rawlinson fel Lt Doon
- Frederick Lloyd fel Capt. Hardy
- Sam Wilkinson fel y Preifat Booth
- Wally Patch fel y Rhingyll
- Hubert Harben fel Mr. Ray
- Ian Hamilton fel ef ei hun [5]
Plot
[golygu | golygu cod]Mae'r ffilm yn adrodd hanes dau gyfaill ysgol, Rupert Ray ac Edgar Doe, sydd yn mwynhau eu hieuenctid, yn arbennig wrth gystadlu mewn pencampwriaethau nofio a phlymio yr ysgol. Wedi cyrraedd 18 mlwydd oed mae'r dau yn cael comisiwn fel swyddogion iau yn y byddin. Tra eu bod yn gorffen eu hyfforddiant mae ymosodiad ar yr Ymerodraeth Otoman yn cael ei drefnu a'i gychwyn gan Y Cadfridog Syr Ian Hamilton.[6] Mae Syr Ian ei hun yn ymddangos yn y ffilm, yn egluro be oedd bwriad yr ymgyrch. Y bwriad oedd i gymryd meddiant o gulfor y Dardanelles gan y Tyrciaid. Roedd y culfor yn caniatáu mynediad o Fôr y Canoldir i Fôr Marmara a'r Môr Du ymhellach i'r gogledd. Byddai meddiannu'r culfor yn caniatáu i luoedd yr Ymerodraeth Prydeinig a Ffrainc rhoi a derbyn cymorth morwrol gyda eu cynghreiriaid yn Ymerodraeth Rwsia. Gan fod y Tyrciaid wedi gosod ffrwydron nofio yn y culfor, byddai'n rhaid ennill penrhyn Gallipoli, oedd yn amddiffyn y culfor gyntaf. Roedd yr ymgyrch i ennill Gallipoli yn drychineb o'r cychwyn cyntaf. Roedd y penrhyn yn lle bryniog, hawdd i'w amddiffyn, a chafodd miloedd o filwyr eu lladd wrth geisio lanio ar draethau islaw'r bryniau.[7] Mae'r ffilm yn torri o hanes y cyfeillion i ddangos y lladdfa didrugaredd ar benrhyn Gallipoli.
Wedi gorffen eu hyfforddiant mae'r dau gyfaill yn cael deall bod eu catrawd am gael ei ddanfon i Gallipoli. Ar y chychwyn mae'r ddau yn llawn frwdfrydedd ac yn llawn cynnwrf am cael mynd i wasanaethu eu gwlad ar faes y brwydr. Yn fuan ar ôl cyrraedd Gallipoli mae'r ddau yn sylweddoli eu bod wedi cyrraedd uffern ar y ddaear ac yn wynebu tasg amhosibl o geisio ennill y penrhyn. Mae Edgar yn cael ei anafu'n ddifrifol a phan mae Rupert yn mynd i'w weld o yn yr ysbyty mae'n ddeall nad oes gobaith iddo wella o'i anafiadau. Mae Rupert yn mynd yn ôl i'w ffos ac yn crio am sefyllfa anobeithiol ei gyfaill a gweddill ei gyd filwyr. Yn ei galar mae'n clywed bod yr awdurdodau wedi penderfynu rhoi'r gorau i ymgyrch y Dardanelles ac am encilio o Gallipoli.
Wrth i filwyr olaf y cynghreiriaid ymadael mae dau o filwyr y Tyrciaid yn dod i lawr o'r bryniau i syllu ar feddau eu gelynion. Uwchben bedd Rupert dangosir y geiriau:
“ | Tell England ye who pass this monument We died for her and here we rest content |
” |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tell England". Time Out Worldwide. Cyrchwyd 2020-12-28.
- ↑ Asquith, Anthony; Barkas, Geoffrey (1931-10-02), Tell England, Fay Compton, Tony Bruce, Carl Harbord, Dennis Hoey, British Instructional Films (BIF), https://www.imdb.com/title/tt0022468/, adalwyd 2020-12-28
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mai 2009. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2020.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ "Tell England". The List. Cyrchwyd 2020-12-28.
- ↑ Napper L. (2015) Conclusion: Tell England. Yn: The Great War in Popular British Cinema of the 1920s. Palgrave Macmillan, Llundain
- ↑ "Sir Ian Hamilton | British general". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-12-28.
- ↑ "Gallipoli Campaign | Summary, Map, Casualties, Significance, & Facts". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-12-28.