Tawel Nos
Gwedd
Carol, neu gân Nadolig, yw Tawel Nos (Stille Nacht yn yr Almaeneg wreiddol).
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth yn 1818 gan Franz X. Gruber, organydd Eglwys Sant Nicolas yn Oberndorf, Awstria. Ysgrifennwyd y geiriau yn 1816 gan Joseph Mor, offeiriad y plwyf. Cafodd ei chanu'n gyhoeddus am y tro cyntaf ar 24 Rhagfyr 1818 yn Eglwys Saint-Nicolas.
Geiriau Cymraeg
[golygu | golygu cod]- Tawel nos dros y byd,
- Sanctaidd nos gylch y crud;
- Gwylio'n dirion yr oedd addfwyn ddau,
- Faban Duw gyda'r llygaid bach cau,
- Crist, Tywysog ein hedd;
- Crist, Tywysog ein hedd.
- Sanctaidd nos gyda'i ser;
- Mantell fwyn, cariad per
- Mintai'r bugail yn dod i fwynhau
- Baban Duw gyda'r llygaid bach cau,
- Crist, Tywysog ein hedd;
- Crist, Tywysog ein hedd.
- Tawel nos, Duw ei Hun
- Ar y llawr gyda dyn;
- Cerddi'r engyl, a'r Ne'n trugarhau;
- Baban Duw gyda'r llygaid bach cau,
- Crist, Tywysog ein hedd;
- Crist, Tywysog ein hedd.