Tarsier
Primatiaid haplorrhini o deulu'r Tarsiidae yw'r tarsier, a'r unig deulu sy'n dal mewn bod o'r is-isurdd Tarsiiformes. Er bod y grŵp yn fwy cyffredin ar un adeg, mae ei holl rywogaethau sy'n bodoli heddiw i'w cael yn ynysoedd De-ddwyrain Asia .
Primat bychan gyda llygaid enfawr yw'r tarsier; mae pob pelen y llygad tua 16 milimedr (0.63 modfedd) ar ei thraws ac mor fawr â, neu mewn rhai achosion yn fwy na, yr ymennydd cyfan.[1][2] Mae anatomi unigryw'r tarsier yn deillio o'r angen i gydbwyso eu llygaid mawr a'u pen trwm fel eu bod yn gallu disgwyl yn dawel am ysglyfaeth maethlon.[3] Mae gan y tarsier synnwyr clywedol cryf, ac mae eu cortecs clywedol yn neilltuol.[3] Mae gan y tarsier hefyd goesau ôl hir, yn bennaf oherwydd esgyrn tarsws hir y traed, ac ar ôl hwnnw mae'r anifail wedi cael ei enw. Mae'r cyfuniad o'u esgyrn tarsi hir a'u tibioffibwlâu yn gwneud eu morffoleg yn arbennig o effeithiol ar gyfer ddringo arwynebau fertigol a neidio.[4] Mae'r pen a'r corff yn amrywio o 10 i 15 cm o hyd, ond mae'r coesau ôl tua dwywaith yr hyd hwn (gan gynnwys y traed), ac mae ganddynt hefyd gynffon main o 20 i 25 cm o hyd. Mae eu bysedd hefyd yn hir, gyda'r trydydd bys tua'r un hyd â bôn y fraich. Mae gan y rhan fwyaf o'u bysedd ewinedd, ond mae gan ail a thrydydd bysedd y traed ôl grafangau sy'n cael eu defnyddio i ymdwtio. Mae gan y tarsier ffwr melfedaidd meddal sydd fel arfer yn llwydfelyn neu ocraidd.[5]
Tarsierod yw'r unig brimatiaid cwbl gigysol sy'n bodol: maent yn bryfysol yn bennaf, ac yn dal pryfed trwy neidio arnynt. Gwyddys hefyd eu bod yn ysglyfaethu ar adar, nadroedd, madfallod ac ystlumod.[5]
Mae pob rhywogaeth o tarsier yn nosol, ond fel llawer o organebau o'r fath, gall rhai unigolion ddangos mwy neu lai o weithgarwch yn ystod y dydd. Yn seiliedig ar anatomi pob tarsier, maent i gyd wedi eu hymaddasu ar gyfer neidio er eu bod i gyd yn amrywio ar sail eu rhywogaethau.[6][7][8][9]
Mae beichiogrwydd yn cymryd tua chwe mis,[10] ac mae tarsierod yn bwrw epil unigol. Mae tarsierod ifanc yn cael eu geni gyda ffwr ar eu cyrff, a chyda llygaid agored, ac maent yn gallu dringo o fewn diwrnod i'w genedigaeth. Maent yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol erbyn diwedd eu hail flwyddyn. Mae eu cymdeithasolrwydd a'u system paru yn amrywio, gyda tharsierod o Sulawesi yn byw mewn grwpiau teuluol bach, tra bod tarsierod Ffilipinaidd a gorllewinol yn cysgu a fforio yn unigol.
Mae tarsierod yn tueddu i fod yn anifeiliaid swil iawn.[ angen dyfynnu ] Mae statws cadwraeth pob rhywogaeth o tarsier yw eu bod yn agored i ddifodiant. Mae tarsierod yn rhywogaeth sy'n dibynnu ar gadwraeth sy'n golygu bod angen iddynt gael mwy o reolaeth ar gynefinoedd gwarchodedig neu y byddant yn sicr yn diflannu yn y dyfodol.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Soluri, K. Elizabeth; Sabrina C. Agarwal (2016). The Laboratory Manual and Workbook for Biological Anthropology. W.W. Norton. ISBN 978-0-393-91291-3.
- ↑ Shumaker, Robert W.; Benjamin B. Beck (2003). Primates in Question. Smithsonian Books. ISBN 978-1-58834-151-8.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Shekelle, Myron; Gursky (2010). "Why tarsiers? Why now? An introduction to the special edition on tarsiers". International Journal of Primatology 31 (6): 937–940. doi:10.1007/s10764-010-9459-6.
- ↑ Rasmussen, D. T.; Conroy, G. C.; Simons, E. L. (1998). "Tarsier-like locomotor specializations in the Oligocene primate Afrotarsius". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 95 (25): 14848–14850. doi:10.1073/pnas.95.25.14848. PMC 24538. PMID 9843978. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=24538.
- ↑ 5.0 5.1 Niemitz, Carsten (1984). Macdonald, D. (gol.). The Encyclopedia of Mammals. New York: Facts on File. tt. 338–339. ISBN 978-0-87196-871-5.
- ↑ Dagosto, M.; Gebo, D. L.; Dolino, C. (2001). "Positional behavior and social organization of the Philippine tarsier (Tarsius syrichta)". Primates 42 (3): 233–243. doi:10.1007/bf02629639.
- ↑ Niemitz, C (1977). "Zur funktionsmorphologie und biometrie der gattung Tarsius, Storr, 1780". Courier Forschungsinstitut Senckenberg 25: 1–161.
- ↑ Niemitz, C. (1979). Relationships among anatomy, ecology, and behavior: A model developed in the genus Tarsius, with thoughts about phylogenetic mechanisms and adaptive interactions. In S. 1190 N. Grow, S. Gursky-DoyenMorbeck, H. Preuschoft, & N. Gomberg (Eds.), Environment, behavior, and morphology: Dynamic interactions (pp. 119–138). New York: Gustav Fischer.
- ↑ Niemitz, C. (1984). An investigation and review of the territorial behaviour and social organization of the genus Tarsius. In C. Niemitz (Ed.), Biology of tarsiers (pp. 117–128). New York: Gustav Fischer
- ↑ Izard, Kay M.; Wright, Simons (1985). "Gestation length in Tarsius bancanus". Am J Primatol 9 (4): 327–331. doi:10.1002/ajp.1350090408.