Neidio i'r cynnwys

Tallinna Linnahall

Oddi ar Wicipedia
Tallinna Linnahall
Enghraifft o'r canlynolneuadd amlbwrpas, llawr sglefrio, neuadd gyngerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolLinnahall Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1980 Edit this on Wikidata
LleoliadKalamaja Edit this on Wikidata
PerchennogLlywodraeth Dinas Tallinn Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHofrenfa Tallinna Linnahall Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolLinnahall Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Tallinn Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.linnahall.ee Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llongau gwib wedi eu glanio wrth y Linnahall

Mae'r Tallinna Linnahall (Cymraeg: "Neuadd Dinas Tallinn"), ar lafar Linnahall; enw gwreiddiol Palas Diwylliant a Chwaraeon V.I. Lenin yn ystod cyfnod yr Undeb Sofietaidd, yn neuadd amlbwrpas ym mhrifddinas Estonia, Tallinn. Hon oedd y neuadd amlbwrpas fwyaf yn Estonia tan agor y Saku Suurhall ym mis Tachwedd 2001. Mae wedi'i leoli yn yr harbwr, ychydig y tu hwnt i furiau'r Hen Dref, ac fe'i cwblhawyd yn 1980. Mae'r lleoliad hefyd yn cynnwys glanfa hofrennydd a phorthladd bychan.

Golygfa o'r promenâd i'r Linnahall

Cwblhawyd y Linnahall ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1980 fel y Palas Diwylliant a Chwaraeon V.I. Lenin. Cynhaliwyd y gemau ym Mosgo, gyda'r cystadlaethau hwylio yn Tallinn.[1] Tallinn enillodd y fraint o gynnal y cystadlaethau hwylio wedi i Sant Petersburg (Leningrad fel y'i gelwid ar y pryd) a Riga (prifddinas Latfia) beidio ymgeisio am wahanol resymau.[2]

Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel neuadd amlbwrpas ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ers 1980. Yn ogystal â'r neuadd fawr (5,000 o seddi),[1] roedd yn cynnwys llawr sglefrio iâ a chaffis amrywiol. Roedd arddangosfeydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd yng nghyntedd 6000m² y neuadd gyngerdd.

Cynlluniwyd y neuadd gan y penseiri o Estonia, Raine Karp a Riina Altmäe.[1] Roedd y ddau yn wynebu'r dasg anodd o gadw'r olygfa o Hen Dref Tallinn o lan y môr a pheidio â thorri ar draws y rheilffordd oedd yn arwain at y porthladd.

Ceisio ailbwrpasu

[golygu | golygu cod]
Mynedfa wedi ei chau (2011)

Bu dadl fywiog yn Estonia dros ddyfodol yr heneb bensaernïol enfawr. Roedd rhai am ei ddychmwel. Ond gwrthwynebwyd hyn gan benseiri Estonaidd ac yn 1997 pasiwyd deddf yn dweud bod rhaid cadw'r adeilad fel ag yr oedd (hynny yw, peidio dymchwel neu newid yr ymddangosiad). Yn 2003 cyflwynwyd hi i reolaeth Cynor Dinas Tallinn ond ceuwyd y neuadd gyngerdd yn 2010.[3]

Yn 2017 ceisiwyd creu cynlllun fyddai'n ei throsi’n ganolfan gynadledda a'i chadw Neuaddau Cyngerdd maint llawn o statws Ewropeaidd. Ymysg y defnyddwyr gobeithiwyd denu i'r neuadd gyda: cyngherddau jazz, roc, sioeau cerdd, theatr, syrcas, sioeau teledu a ffilm, a chynadleddau.[3] Mae'r adeilad yn dadfeilio ar hyn o bryd. Serch hynny, mae Linnahall yn fan cyfarfod poblogaidd i bobl leol a thwristiaid, gan fod ei do yn cynnig golygfa o'r Môr Baltig a'r ddinas.

O'i sefydlu yn 2002 hyd ei ddiddymu yn 2009, chwaraeodd clwb hoci iâ Tallinn Stars ei gemau cartref yn y neuadd.

Rhwng Mehefin a Gorffennaf 2019, roedd y lleoliad yn gweithredu fel lleoliad esgus tŷ opera yn Kyiv yn ystod ffilmio'r ffilm nodwedd Tenet.[4]

Erbyn 2024 doedd dal dim consensws na chefnogaeth glir dros beth i wneud gyda'r adeilad. Nododd podlediad 'Urbanist' gan Monocle Magazine, bod yr adeilad wedi bod yn ddiddefnydd am 14 mlynedd a bod nodweddion yn rhydu, a naws bron "ôl-apotolyctaidd" i'r lle. Nodwyd y broblem sylfaenol sef bod yr adeilad gyda 5,000 o seddi, yn rhy fawr i ddinas Tallinn sydd â phoblogaeth o 400,000 (tua'r un maint â Chaerdydd ond heb y trefi mawrion o fewn 30 milltir iddi) a phoblogaeth Estonia ond oddeutu 1.3 miliwn.[5]

Tallinna linnahall

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Linnahall". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-23. Cyrchwyd 2018-02-10.
  2. "Olympics 1980! Soviet Constructions for Olympic Regatta in Tallinn". Sianel Youtube 'Tallinn Open'. 2020.
  3. 3.0 3.1 "Visioon" (yn Ewe). Gwefan Tallinna Linnahall. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2024.[dolen farw]
  4. "Christopher Nolan's Tenet Begins Rehearsals As Cast Arrives In Estonia; Check Out Early Set Photos". Appocalypse (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-30.
  5. "Tall Story Tallinna Linnhall, episode 436". Podledida Urbanist. 25 Tachwedd 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.