TWW
Enghraifft o'r canlynol | darlledwr |
---|---|
Daeth i ben | 4 Mawrth 1968 |
Dechrau/Sefydlu | 14 Ionawr 1958 |
Olynwyd gan | HTV |
Perchennog | Edward Stanley, 18fed arglwydd Derby |
Pencadlys | Caerdydd |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Cymru |
Teledu Cymru a'r Gorllewin (Television Wales and the West) - (TWW) oedd y cwmni darlledu ITV yn "Ne-ddwyrain Cymru a Gorllewin Lloegr" rhwng 14 Ionawr 1958 a 4 Mawrth 1968.[1][2]
Darlledwyd am y tro cyntaf am 4:45 pm ar 14 Ionawr 1958 o stiwdio ym Mhontcanna, Caerdydd, gyda rhaglen chwarter awr yng nghwmni'r Arglwydd Derby, Syr Ifan ab Owen Edwards, Bruce Lewis ac Alfred Francis. Roedd y sianel yn darlledu nifer o raglenni yn Gymraeg yn cynnwys y rhaglen newyddion Y Dydd, rhaglen gylchgrawn Amser Te a rhaglen o gerddoriaeth Gymreig, Gwlad y Gân.
Dechreuodd yr masnachfraint ar 26 Hydref 1956 a gorffennodd yn 1968 pan gollodd TWW yr etholfraint i gwmni Arglwydd Harlech.
Am y 6 mlynedd cyntaf, un trosglwyddydd oedd gan y cwmni, ond ymunodd y cwmni â WWN o ogledd a gorllewin Cymru yn 1964 a manteisiwyd ar eu trosglwydyddion nhw, gan ddarlledu i bron y cyfan o Gymru. Roedd y sianel yn ddwyieithog hyd at wanwyn 1968 pan ddaeth TWW i ben ac fe ddechreuodd gwasanaeth “ITSWW” (Independent Television Service for Wales and the West) am gyfnod byr. Ar 20 Mai 1968, dechreuodd sianel newydd Harlech (HTV).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ident Archifwyd 2006-07-15 yn y Peiriant Wayback (Transdiffusion Broadcasting System / Electromusications), adalwyd 19 Awst 2006
- ↑ Royal Television Society Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 19 Awst 2006
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Transdiffusion - Rhaglenni Cymraeg Archifwyd 2006-07-07 yn y Peiriant Wayback