Tŵr Wardenclyffe
Math | Labordy |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Shoreham |
Sir | Brookhaven |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 40.9476°N 72.8982°W |
Statws treftadaeth | lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA |
Manylion | |
Deunydd | metel |
Gorsaf drawsyrru diwifr arbrofol ym mhentref Shoreham, Long Island, yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, oedd Tŵr Wardenclyffe. Cafodd y tŵr ei ddylunio a'i adeiladu yn 1901–2 gan Nikola Tesla, y peiriannydd trydanol, yn sgil arbrofion a oedd wedi gwneud yn y 1890au cynnar. Roedd gan Tesla nod o ddatblygu system trawsyrru pŵer diwifr a oedd yn defnyddio'r Ddaear ei hun i ddargludo signalau trydanol er mwyn cystadlu â system radio-telegraffi a ddyfeisiwyd gan Guglielmo Marconi. Nid yw manylion llawn ei ddeunyddiau a'i adeiladwaith yn hysbys bellach, ond roedd ganddo 187 troedfedd o daldra. Ei bwrpas oedd trosglwyddo negeseuon ar draws Cefnfor yr Iwerydd ac i longau ar y môr.[1][2]
Fodd bynnag, nid oedd Tesla yn gallu codi digon o gefnogaeth ar gyfer y prosiect, a rhoddwyd y gorau iddo ym 1906, ac ni ddaeth byth i weithrediad. Mewn ymgais i gwrdd â dyledion Tesla, cafodd y tŵr ei ddymchwel ar gyfer metel sgrap ym 1917 a chymerodd ei ddyledwyr feddiant o weddill y safle, a oedd yn ymestyn i 200 erw (81 ha), ym 1922. Am y 50 mlynedd dilynol, roedd Wardenclyffe yn sefydliad yn cynhyrchu cyflenwadau ffotograffiaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (yn en) Nikola Tesla's True Wireless: A Paradigm Missed. doi:10.1109/JPROC.2018.2827438. https://ieeexplore.ieee.org/document/8365923.
- ↑ W. Bernard Carlson (2013). Tesla: Inventor of the Electrical Age (yn Saesneg). Princeton University Press. t. 209.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Tesla Science Center at Wardenclyffe