Syr John Wynn
Syr John Wynn | |
---|---|
Ganwyd | 1553 |
Bu farw | 1 Mawrth 1627, 1 Mawrth 1626 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1586-87 Parliament |
Tad | Morys Wynn ap John |
Mam | Jane Bulkeley |
Priod | Sidney Gerard |
Plant | Syr Richard Wynn, 2ail Farwnig, Owen Wynn, Henry Wynn, William Wynn, Mary Wynn |
Llinach | Teulu Wynniaid, Gwydir |
- Am bobl eraill o'r enw John Wynn, gweler John Wynn (gwahaniaethu).
Barwnig, Aelod seneddol, a hynafiaethydd o Gymru oedd Syr John Wynn (1553 – 1 Mawrth 1627). Yn fab ac etifedd i Morys Wynn ap John, perchennog ystâd Gwydir, hawliodd ei fod yn ddisgynnydd uniongyrchol ac etifedd tywysogion Gwynedd trwy Rhodri ab Owain Gwynedd. Mae'n debygol iddo gael ei eni yng Ngwydir, ger Llanrwst, Dyffryn Conwy.
Gyrfa a chymeriad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, ac etifeddodd ystad Gwydir yn 1580. Daeth yn aelod seneddol dros Sir Gaernarfon yn 1586. Yn 1606 cafodd ei urddo yn farchog ac yn 1611 cafodd ei wneud y cyntaf o'r barwnigion Wynn. Am bron hanner canrif bu'n flaengar yng ngwleidyddiaeth Sir Gaernarfon a gogledd Cymru. Cymerodd ddiddordeb mewn gweithio mwyngloddiau lleol a datblygiadau masnachol eraill. Roedd yn ysgolhaig a noddwr ysgolheigion yn ogystal, ac ymroddodd i astudiaethau hynafiaethol a hanes Gwynedd. Yn Llanrwst, sefydodd Syr John ysbyty a rhoddodd arian at gynnal ysgol ramadeg newydd (Ysgol Rad Llanrwst). Ei fab oedd Syr Richard Wynn, a gododd Blas Mawr yng Nghonwy.
Ymddengys nad oedd Syr John yn boblogaidd iawn. Cafodd enw am fod yn gyfrwys a dichellgar. Roedd yn uchelwr ariangar gyda llygad am gyfleuon masnach. Yn ogystal â hapchwarae ym mwyngloddiau'r fro, roedd ganddo fusnes hel perlau o Afon Conwy. Ef oedd y cyntaf i awgrymu codi morglawdd dros geg y Traeth Mawr, Porthmadog, mewn llythyr i'w gyfaill Syr Hugh Middleton o Ddinbych. Cafwyd anghydfod rhyngddo a'r Esgob William Morgan ynglŷn â phrydles am dir ger Llanrwst. Arohosodd blas drwg ar eu perthynas ar ôl hynny, gyda Syr John yn hawlio'r clod am gael swydd Esgob Llanelwy i William Morgan.
Ar ôl ei farwolaeth tyfodd chwedl werin leol sy'n adrodd fod ei ysbryd aflonydd wedi ei gaethiwo dan Rhaeadr Ewynnol (ger Betws-y-Coed), iddo gael ei olchi a'i buro oddi wrth ei weithredoedd drwg! Ond cofier iddo sefydlu ysbyty i'r tlodion yn Llanrwst ac ariannu ysgol yno.
Gwaith hynafiaethol
[golygu | golygu cod]Ei gyfraniad mawr i astudiaethau ar hanes Cymru yw ei gyfrol enwog History of the Gwydir Family, a fu'n boblogaidd iawn yng ngogledd Cymru. Prif amcan Syr John wrth sgwennu'r llyfr oedd cadarnhau ei hawl i fod yn ddisgynnydd uniongyrchol i dywysogion Gwynedd ac felly o linach brenhinol. Ond ymddengys iddo wyrio rhai o'r achau yn y llyfr i brofi hynny ac nid oedd pawb yn barod i dderbyn ei honiadau. Cyflwynodd Tomos Prys o Blas Iolyn achos llys yn ei erbyn a bu rhaid i Syr John amddiffyn ei hun yn y llys. Ond enillodd yr achos a chafodd ei gydnabod fel prif etifedd gwrywaidd Talaith Gwynedd ac felly, yn ôl Cyfraith Hywel, yn Dywysog de jure Gwynedd. Fodd bynnag, roedd disgynyddion Dafydd Goch, mab llwyn a pherth Dafydd ap Gruffudd, yn hawlio'r fraint honno yn ogystal. Arosodd llyfr Syr John Wynn mewn llawysgrifau (ceir sawl copi) hyd y 18g. Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf gan Dames Barrington yn 1770, a chafwyd sawl argraffiad arall ar ôl hynny. Yn ogystal â bod yn ddarllen difyr, mae'r llyfr yn werthfawr am y portread a geir ynddo o gyflwr cymdeithas yng ngogledd Cymru yn y 15g a dechrau'r 16g.
Ysgrifennodd Syr John gyfrol fechan o atgofion (y Memoirs) sy'n ffynhonnell bwysig am hanes a chymdeithas gogledd Cymru yn ail hanner yr 16eg a dechrau'r 17g. Yn ogystal, ysgrifennodd draethawd ar hynafiaethau ardal Penmaenmawr, sy'n cynnwys y disgrifiad cynharaf o fryngaer Braich-y-Dinas, a gyhoeddwyd yn 1859 dan y teitl An Ancient Survey of Penmaenmawr.
Roedd Syr John yn ymdroi yng nghylchoedd deallusol a llenyddol gogledd Cymru. Gohebai â John Davies, Mallwyd ynglŷn â chyhoeddi geiriadur Lladin-Cymraeg Syr Thomas Wiliems o Drefriw.
Ach gwrywaidd Syr John Wynn o Wydir
[golygu | golygu cod]- Owain Gwynedd, Brenin Gwynedd (m. 1170) = Cristin ferch Gronw ap Owain ap Edwin
- Rhodri ab Owain Gwynedd, Arglwydd Môn (m.1195) = Anest ferch Rhys ap Gruffudd
- Tomos ap Rhodri ab Owain Gwynedd = Anest ferch Einion ap Seisyllt
- Caradog ap Tomas = Efa ferch Gwyn ap Gruffudd ap Beli
- Gruffudd ap Caradog = Lleucu ferch Llywarch Fychan ap Llywarch
- Dafydd ap Gruffudd o Ros = Efa ferch Gruffudd Fychan
- Hywel ap Dafydd = Efa ferch Evan ap Hywel ap Maredudd
- Maredudd ap Hywell (m. ar ôl 1353) = Morfydd ferch Ieuan ap Dafydd ap Trahaearn Goch
- Robert ap Maredudd = Angharad ferch Dafydd ap Llywelyn
- Ifan ap Robert (1438 - 1469) = Catherine ferch Rhys ap Hywel Fychan
- Maredudd ap Ifan (Ieuan) ap Robert (1459 - 1525) = Ales ferch William Gruffudd ap Robin
- John Wynn ap Maredudd (m. 9 Mehefin 1559) = Ellen Lloyd ferch Morys ap John
- Morys Wynn ap John (m. 1580) = Jane Bulkeley (1) Ann Grevill (2) Catrin o Ferain (3)
- Syr John Wynn ap Morys o Wydir
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Sir John Wynn: History of the Gwydir Family and memoirs. Gol. J. Gwynfor Jones (Gwasg Gomer, 1990)
- J. Gwynfor Jones. The Wynn family of Gwydir (Centre for Educational Studies, 1995)
- E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, 1949)
Teitlau Anrhydeddus | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Thomas Mostyn |
Custos Rotulorum Sir Gaernarfon 1618–1627 |
Olynydd: Syr Richard Wynn |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Morys Wynn ap John |
Penaeth Tŷ Cunedda 1580–1627 |
Olynydd: Syr Richard Wynn |
Pendefigaeth Lloegr | ||
Rhagflaenydd: teitl newydd |
Barwnig (Gwydir) 1611–1626 |
Olynydd: Syr Richard Wynn |
- Aelodau Senedd Lloegr
- Barwnigion ym Marwnigaeth Lloegr
- Pobl yr 16eg ganrif o Gymru
- Pobl yr 17eg ganrif o Gymru
- Genedigaethau 1553
- Hynafiaethwyr o Gymru
- Gwleidyddion yr 16eg ganrif o Gymru
- Llenorion Saesneg o Gymru
- Llenorion yr 16eg ganrif o Gymru
- Llenorion yr 17eg ganrif o Gymru
- Llinach Aberffraw
- Marwolaethau 1627
- Pobl o Lanrwst
- Siryfion Sir Gaernarfon
- Siryfion Meirionnydd