Sweyn I, brenin Denmarc
Sweyn I, brenin Denmarc | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ebrill 963 Denmarc |
Bu farw | 3 Chwefror 1014 Gainsborough |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc |
Galwedigaeth | llywodraethwr |
Swydd | teyrn Denmarc, teyrn Lloegr, teyrn Norwy, teyrn Norwy |
Tad | Harald Bluetooth |
Mam | Tove o'r Obotriaid |
Priod | Gunhilda, Sigrid Drahaus |
Plant | Estrid Svendsdatter, Gyda Svendsdatter, Świętosława, Gunhilda Sveynsdottir, merch Sveynsdottir, Thyra Sveynsdottir, Harald II o Ddenmarc, Cnut Fawr |
Llinach | House of Knýtlinga |
Brenin Denmarc, Lloegr a rhannau o Norwy oedd Sweyn I (tua 960 - 3 Chwefror 1014). Cyfeirir ato wrth sawl enw, yn cynnwys Sweyn Farf Fforchog (Sweyn Forkbeard), Sweyn Ddaniad (ffynonellau Saesneg), hefyd Svein, Svend, Swegen a Tuck (Hen Norseg: Sveinn Tjúguskegg, Norwyeg: Svein Tjugeskjegg, Swedeg: Sven Tveskägg; Daneg: Svend Tveskæg, o Tjugeskæg neu Tyvskæg). Roedd yn arweinydd Viking Llychlynaidd ac yn dad i'r brenin Canute. Pan fu farw ei dad Harald Lasdant ar ddiwedd 986 neu ddechrau 987, daeth yn frenin Denmarc; yn 1000, mewn cynghrair â'r Trondejarl, Eric o Lade, daeth yn rheolwr ar y rhan fwyaf o Norwy hefyd. Ar ôl cyfnod hir o ymgyrchu yn erbyn y Saeson am feddiant o'r wlad, ac yn fuan cyn ei farwolaeth, yn 1013 goresgynodd deyrnas Lloegr. Ym mlynyddoedd olaf ei oes, ef oedd teyrn Danaidd ymerodraeth a ymestynnai dros Fôr y Gogledd, ac a etifeddywd gan ei fab Canute a'i ehangodd i fod yn un o ymerodraethau mwyaf gogledd Ewrop.
Ymosododd Sweyn ar Loegr sawl gwaith yn y 1000au cyn llwyddo i oresgyn y deyrnas honno. Un o'i resymau dros hynny oedd dial llofruddiaeth ei chwaer Gunhilde a nifer o Ddaniaid eraill gan dorf yn Rhydychen yn y flwyddyn 1002, fel rhan o ymgyrch glanhau ethnig a elwir yn Gyflafan Gŵyl Sant Bricius.