Sweeney Todd
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol ffuglennol, cymeriad llenyddol |
---|---|
Crëwr | David Shannon, Thomas Peckett Prest, James Malcolm Rymer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymeriad ffuglen Seisnig sy'n ymddangos mewn chwedl boblogaidd o'r 19g yw Sweeney Todd. Ymddangosodd mewn llenyddiaeth Seisnig am y tro cyntaf yn 1846. Yn y fersiwn mwyaf cyffredin o'r stori mae'n farbwr yn Stryd y Fflyd yn Llundain sy'n llofruddio ei gwsmeriaid gyda rasal ac wedyn yn eu troi'n bastai cig i'w gwerthu yn ei siop drws nesaf. Fe'i llysenwyd "Sweeney Todd, Barbwr Dieflig Stryd y Fflyd".
Daeth y stori'n un o brif felodramâu Oes Fictoria yn Lloegr; trowyd yn sioe gerdd Broadway yn 1979, ac yn ffilmau yn 1936 a 2007.