Tîm pêl-droed cenedlaethol Sweden
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Sweden Tîm pêl-droed cenedlaethol)
Math o gyfrwng | tîm pêl-droed cenedlaethol |
---|---|
Math | tîm pêl-droed cenedlaethol |
Dechrau/Sefydlu | 12 Gorffennaf 1908 |
Perchennog | Cymdeithas Bêl-droed Sweden |
Gwladwriaeth | Sweden |
Gwefan | http://svenskfotboll.se |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Sweden (Swedeg: Svenska Fotbollslandslaget) yn cynrychioli Sweden yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Sweden (SvFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r SvFF yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Mae Sweden wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd unarddeg o weithiau gan gynnal y gysatdleuaeth ym 1958. Gorffenodd Sweden yn ail yn y gystadleuaeth ar eu tomen eu hunain ac yn drydydd yn 1950 a 1994. Maent hefyd wedi cipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain 1948.
|