Neidio i'r cynnwys

Surop masarn

Oddi ar Wicipedia
Potel o surop masarn

Surop a wneir o sudd sylem y fasarnen, gan amlaf y fasarnen siwgr, y fasarnen goch a'r fasarnen ddu, yw surop masarn[1] neu sudd masarn.[1] Mewn hinsawdd oer, mae coed masarn yn storio startsh yn eu boncyffion a'u gwreiddiau cyn i'r gaeaf dŵad; caiff y startsh ei droi'n siwgr ac yn codi o'r sudd yn y gwanwyn. Caiff masarn eu tapio trwy durio tyllau yn eu boncyffiau a chasglu'r sudd. Prosesir y sudd drwy ei wresogi i anweddu'r dŵr, gan adael y surop tewychedig.

Cesglir surop masarn yn gyntaf gan bobloedd brodorol Gogledd America. Mabwysiadodd setlwyr Ewropeaidd y dull o dapio, ac yn raddol datblygodd hwy y broses gynhyrchu. Mae talaith Québec yn cynhyrchu tua dwy ran o dair o surop masarn y byd;[2] mae Canada'n allforio mwy na C$145 miliwn o surop masarn y flwyddyn.[3][4] Vermont yw'r cynhyrchydd mwyaf yn yr Unol Daleithiau, ac yn gwneud rhyw 5.5 y cant o surop masarn y byd.[5]

Bwyteir surop masarn yn aml am frecwast gyda chrempogau, wafflau, tost Ffrengig, neu uwd. Defnyddir hefyd fel cynhwysyn wrth bobi bwydydd melys. Mae gan surop masarn bwysigrwydd diwylliannol yng Nghanada a Lloegr Newydd. Dangosir deilien fasarn ar faner Canada,[6] ac mae gan nifer o daleithiau'r Unol Daleithiau y fasarnen siwgr fel coeden swyddogol y dalaith.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 864 [maple: maple syrup].
  2. "Production, Price, & Value, 2002–2004, U.S. & Canadian Provinces" (PDF). Maple Syrup. Adran Amaeth yr Unol Daleithiau. Medi 2005. t. 12. Cyrchwyd 19 Medi 2010.
  3. Ciesla, William M (2002). Non-wood forest products from temperate broad-leaved trees. Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, t. 20. ISBN 978-92-5-104855-9.
  4. Elliot, Elaine (2006). Maple Syrup: recipes from Canada's best chefs. Formac Publishing Company, t. 13. ISBN 978-0-88780-697-1.
  5. Eagleson, Janet; Hasner, Rosemary (2006). The Maple Syrup Book. The Boston Mills Press, t. 27. ISBN 978-1-55046-411-5.
  6. "The maple leaf". Canadian Heritage. 17 Tachwedd 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-11. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2010.
  7. "State Trees & State Flowers". Gardd Goed Genedlaethol yr Unol Daleithiau. 14 Gorffennaf 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-06. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2010.