Sousse
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 221,530, 173,047 |
Gefeilldref/i | Braunschweig, Constantine, Ljubljana, Marrakech, Latakia, Van Nuys, Québec, İzmir, St Petersburg, Miami, Serpukhov, Boulogne-Billancourt |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Northern Tunisia |
Sir | Sousse |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 45 km² |
Uwch y môr | 6 metr |
Cyfesurynnau | 35.83°N 10.63°E |
Cod post | 4000 |
Mae Sousse (Arabeg: سوسة) yn ddinas a phorthladd yn nwyrain canolbarth Tiwnisia, sy'n gorwedd 140 km i'r de o'r brifddinas Tiwnis, ar Gwlff Hammamet (Môr Canoldir). Sousse yw prif ddinas rhanbarth y Sahel (llysenw: 'perl y Sahel') a phrifddinas talaith Sousse. Mae gan y ddinas boblogaeth o 173,047 o bobl, ffigwr sy'n tyfu i tua 400,000 pan gynhwysir ei maerdrefi allanol, sy'n ei gwneud yr ardal ddinesig 3ydd mwyaf yn Nhiwnisia (ar ôl Tiwnis a Sfax). Maes awyr Sousse yw'r ail brysuraf yn y wlad.
Mae Sousse yn ddinas hynafol gyda'r mwyaf diddorol yn y wlad. Sefydlwyd dinas Hadrumete (neu Hadrumetum: gelwir Sousse yn Hadramaout gan rai o'i thrigolion hyd heddiw) gan y Ffeniciaid. Roedd yn ddinas Rufeinig lewyrchus a gwelir catacombs o'r cyfnod yno heddiw. Codwyd nifer o adeiladau gwych yn yr hen ddinas (medina Sousse), sydd ar restr safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Erbyn heddiw mae twristiaeth yn ganolog i'r economi ; er nad yw'r ddinas ei hun yn gartref i lawer o westai mawr, mae'n gorwedd yn agos i ganolfannau gwyliau Monastir a Hammamet.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Sleim Ammar (1927-1999), seiciatrydd a bardd
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Néji Djelloul, Sousse, l'antique Hadrumetum (Contraste, 2006)
- Ameur Baâziz, Si Soussa m'était contée (2005)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2007-09-13 yn y Peiriant Wayback