Sir an-fetropolitan
Math o ardal llywodraeth leol yn Lloegr yw sir an-fetropolitan (Saesneg: non-metropolitan county). Mae siroedd an-fetropolitan yn rhan o system dwy haen o lywodraeth leol sy'n gweithredu yn y rhan fwyaf o Loegr.
Rhennir pob sir an-fetropolitan yn nifer o ardaloedd an-fetropolitan, gan rannu pŵer a chyfrifoldeb gyda nhw.
Mae'r sir yn gyfrifol am wasanaethau mwyaf a drutaf, megis:
- addysg
- gwasanaethau cymdeithasol
- prif ffyrdd
- llyfrgelloedd
- trafnidiaeth gyhoeddus
- gwasanaethau tân
- Safonau Masnach
- gwaredu gwastraff
- cynllunio strategol
tra bod ardaloedd an-fetropolitan yn darparu gwasanaethau, megis:
- cynllunio lleol a rheoli adeiladau
- tai cyngor
- ffyrdd lleol
- iechyd yr amgylchedd
- marchnadoedd a ffeiriau
- casglu ac ailgylchu sbwriel
- mynwentydd ac amlosgfeydd
- parciau
- gwasanaethau hamdden
- twristiaeth
Crëwyd y system ddwy haen hon yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae rhan fwyaf o siroedd an-fetropolitan enwau sy'n cyfateb i enwau siroedd seremonïol, ac mae'n bwysig peidio â chymysgu'r naill â'r llall, gan eu bod yn amlach na pheidio yn cyfeirio at wahanol ardaloedd daearyddol, oherwydd bod mwyafrif y siroedd seremonïol yn cynnwys awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir an-fetropolitan.