Sinigrin
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | [3,4,5-trihydroxy-6-(hydroxymethyl)oxan-2-yl] N-sulfooxybut-3-enimidothioate |
Màs | 359.034473124 uned Dalton |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Glwcosinolad (neu glucosinolate) ydy Sinigrin, sy'n perthyn i deulu'r glwcosad a ganfyddir mewn rhai planhigion megis ysgewyll, brocoli a'r mwstad du (y Brassica nigra).
Pan fo planhigion tebyg yn cael eu gwasgu neu eu niweidio'n ddrwg, mae'r ensym 'myriosinase' yn dadfeilio sinigrin i fod yn olew mwstad (allyl isothiocyanate) sy'n gyfrifol am yr ogla a'r blas erchyll sydd ar fwstad a rhuddugl môr ('horse-radish').
Mae hadau'r mwstad gwyn (sef y Sinapis alba) ac yn cynnwys sinalbin yn hytrach na sinigrin.
Enw cemegol sinigrin yw 'llylglucosinolate' neu '2-propenylglucosinlate'. Y rhif-cas (neu cas number) yw 3952-98-5.
Dengys ymchwil gan Norwich Research Park (NRP), yn nwyrain Lloegr, y gall sinigrin goncro celloedd cansar (Yr apoptosis). O'i fwyta'n rheolaidd, yr awgrym cryf yw y gall sinigrin atal cansar rhag datblygu.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Erthygl Saesneg gan yr Institute of Food Research o'r enw 'Why your best friend could be a Brassica' [1] Archifwyd 2006-01-11 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Saesneg: Norwich Research Park website Archifwyd 2007-05-07 yn y Peiriant Wayback