Sgwrs:Cynghrair Cymru Gogledd
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Ad-drefnu/ailenwi haen 2
[golygu cod]Tra dwi'n cytuno mai mond ailenwi sydd wedi digwydd i'r gynghrair ac mai'r peth hawsaf yw ailenwi'r erthygl, un problem rŵan ydi bod yna ddwy erthygl wahanol ar y wiki Saesneg (ac eraill?), sef en:Cymru_North a en:Cymru Alliance, felly rŵan mae gan yr erthygl hon ddolen rhyngwici at Cymru Alliance, ond does gan yr erthygl Saesneg 'Cymru North' ddim erthygl gyfatebol i fod a dolen rhyngwici ati. Dwi ddim yn dallt y dalltins yn iawn, ond gall hyn effeithio Wikidata (a falle ddim, a sdim rheswm bod ni'n dilyn wicis eraill yn slafaidd). Hefyd, ar gyfer y drefn yn y de, mae gyda ni rŵan hefyd erthyglau ar wahân ar gyfer cy:Cymru South a cy:Cynghrair Cymru (Y De). Yn ôl fy arfer, dwi ddim yn cynnig datrysiad, jyst nodi problemau! Felly mae dau beth:
- Cysondeb enwau: (Cymru North/South fel y Saesneg neu Cynghrair Cymru Gogledd/De), sydd ddim yn llawer o broblem, a
- Cysondeb ffurf yr erthyglau. O ran taclusrwydd, efallai mai copïo'r Saesneg sydd orau?