Neidio i'r cynnwys

Sgwario

Oddi ar Wicipedia
Sgwâr 5 x 5, neu 52 (5 wedi'i sgwario). Mae pob bloc, neu sgwâr bach, yn cynrychioli un uned, 1⋅1.

Yn ogystal â bod yn siâp geometrig pedair ochr, mae'r term wedi'i sgwario[1] o fewn algebra yn ddull o luosi rhif gydag ef ei hun. Mae sgwario'n gyfystyr â chodi i bŵer 2, ac fe'i nodir gydag uwch-nod e.e. 3 wedi'i sgwario yw 32, sef 9. Fel y gwelir yn y diagram ar y dde, daw'r term o'r dull o gyfrifo arwynebedd sgwâr pan rydym yn gwybod hyd ei ochrau.

Mewn cod cyfrifiadurol, ceir dull arall o nodi hyn, sef drwy ddefnyddio testun plaen; mae x2 mewn cyfrifiadureg, felly'n cael ei nodi fel y nodiant x^2 neu x**2.

Yr ansoddair am sgwario rhif yw 'cwadratig'.

Enghraifft

I gyfrifo 5 wedi ei sgwario, gellir meddwl am sgwâr, gyda hyd ei ochrau'n 5 metr, yna

5 m x 5 m = 25 m2 felly, 5 wedi ei sgwario yw 25.

Mae'r weithredo sgwario yn aml yn cael ei gyffredinoli i bolynominalau, mynegiannau eraill neu werthoedd mewn systemau mathemategol sydd y tu hwnt i rifau. Er enghraifft, sgwâr y polynoliminal llinol x 1 yw'r polynominal cwadratig (x 1)2 = x2 2x 1.

Indecsau ac ail isradd

[golygu | golygu cod]

Mewn algebra, indecs yw'r nodiant a ddefnyddir i fynegi rhifau mewn dull hwylus. Yma, gellir galw'r indecs, hefyd yn bŵer, sef yr uwch-nod, wedi'i osod wrth ochr rhif normal neu lythyren. Mae'n gyfystyr â'r nifer o weithiau mae'r rhif (neu'r lythyren) yn cael ei luosi gydag ef ei hun.

Yn z2, ceir dwy ran: z yw'r "rhif sylfaen" a 2 yw'r "indecs".

I sgwario rhifau sy'n cynnwys indecsau, dyblir y pŵer. Enghreifftiau:

(X4)2 = X8

(z6)2 = z12

Mae ail isradd yn weithred croes i sgwario rhif. Pan fo arwynebedd sgwâr yn hysbys, gallwn gyfrifo'i ochrau drwy ganfod ei ail isradd. Er enghraifft, os yw arwynebedd sgwâr yn 100 m, yna ail isradd 100 yw 10. I ganfod ail isradd rhifau sy'n cynnwys indecsau yw dy fod yn haneru’r pŵer.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]