Neidio i'r cynnwys

Sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru
Enghraifft o'r canlynolchild sexual abuse Edit this on Wikidata
LleoliadGogledd Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Sgandal dros gamdrin plant yn rhywiol mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru oedd sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru, a ganolbwyntiodd ar achosion yng Nghlwyd a Gwynedd o 1974 hyd 1990. Penodwyd Syr Ronald Waterhouse i arwain ymchwiliad ym 1997, a chyflwynwyd adroddiad Waterhouse yn 2000. Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ymchwiliad Waterhouse

[golygu | golygu cod]

Gorchmynwyd ymchwiliad gan William Hague, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym 1996 yn sgil penderfyniad gan Gyngor Sir Clwyd i wrthod cyhoeddi adroddiad gan ymchwiliad llai. Gwnaed penderfyniad y Cyngor ar sail cyngor cyfreithiol a rybuddiodd y bydd yr adroddiad yn annog achosion llys a cheisiadau am iawndal.[1]

Clywodd y tribiwnlys dros 700 o honiadau yn erbyn 170 o bobl mewn 40 o gartrefi, dros gyfnod o 20 mlynedd.[2] Parhaodd y tribiwnlys am 203 o ddiwrnodau a chlywodd dystiolaeth gan 575 o dystion, gan gynnwys 259 o achwynwyr a honnodd iddynt gael eu cam-drin mewn gofal. Archwiliodd y tribiwnlys 9,500 o ffeiliau'r gwasanaethau cymdeithasol, 3,500 o ddatganiadau i'r heddlu a 43,000 o dudalennau o gwynion.[1] Costiodd yr ymchwiliad £12 miliwn.[3]

Adroddiad Waterhouse

[golygu | golygu cod]

Yn Chwefror 2000 cyhoeddwyd yr adroddiad, "Ar Goll mewn Gofal", oedd yn hanner miliwn o eiriau ac yn cynnwys 72 o argymhellion. Galwodd yr adroddiad am "ad-drefnu'r system gofal yn llwyr", a beirniadodd weithwyr cymdeithasol, staff cartrefi preswyl, awdurdodau lleol, yr heddlu a'r Swyddfa Gymreig.[4] Ymhlith yr argymhellion oedd i benodi Comisiynydd Plant i Gymru, i awdurdodau lleol benodi Swyddog Cwynion i Blant, i awdurdodau lleol weithredu trefn canu cloch, i weithwyr cymdeithasol ymweld â phlant yn eu gofal bob dau fis, i adolygu'r rheolau parthed gofal preswyl preifat ac i adolygu anghenion a chostau gwasanaethau plant yn y Deyrnas Unedig.[5]

Croesawyd casgliadau'r adroddiad gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, John Owen, ond datganodd na fydd yr heddlu yn erlyn yr un berson mewn cysylltiad â'r honiadau.[5]

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]

Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad i Adroddiad Waterhouse.

Yn Nhachwedd 2012 galwodd Steve Meesham, dyn sy'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol gan wleidydd Ceidwadol blaenllaw, am ymchwiliad newydd. Mewn cyfweliad ar y rhaglen BBC Newsnight, dywedodd fod y gwleidydd wedi ei gam-drin yn fwy na dwsin o weithiau, ond ni chafodd enwi'r gwleidydd ar y rhaglen.[3][6] Cefnogir ymchwiliad newydd gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.[7] Cafodd yr Arglwydd McAlpine ei gysylltu â'r cyhuddiadau, a derbyniodd McAlpine ymddiheuriadau gan Meesham[8] a'r BBC[9] am ei gam-adnabod. O ganlyniad i'r ffrae dros y rhaglen, ymddiswyddodd George Entwistle, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.[10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Questions and answers that surround a catalogue of abuse against children. The Guardian (16 Chwefror 2000). Adalwyd ar 24 Hydref 2012.
  2.  Cynnig llais i blant mewn gofal. BBC (13 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
  3. 3.0 3.1  Dioddefwr yn galw am ymchwiliad newydd. BBC (3 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
  4.  Galwad am 'ad-drefnu'r system gofal yn llwyr'. BBC (15 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
  5. 5.0 5.1  Dim erlyn, meddai'r heddlu, ar ôl adroddiad camdrin. BBC (16 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
  6.  Dioddefwr trais rhywiol yn enwi Tori blaenllaw. Golwg360 (3 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
  7.  Pwyso am ymchwiliad newydd i gylch o bedoffiliaid. Golwg360 (4 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
  8.  Dioddefwr yn ymddiheuro i'r Arglwydd McApline am ei gam-adnabod. BBC (9 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 12 Tachwedd 2012.
  9.  BBC yn ymddiheuro'n ddiamod am adroddiad Newsnight. BBC (10 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 12 Tachwedd 2012.
  10.  Cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, George Entwistle, yn ymddiswyddo. BBC (11 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 12 Tachwedd 2012.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Corby, B., Doig, A. a Roberts, V. Public Inquiries into Abuse of Children in Residential Care (Llundain, Jessica Kingsley, 2001).
  • Webster, Richard. The Secret of Bryn Estyn: The Making of a Modern Witch Hunt (Orwell Press, 2005).