Seiji Ozawa
Seiji Ozawa | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1935 Shenyang |
Bu farw | 6 Chwefror 2024 o methiant y galon Setagaya-ku |
Man preswyl | Setagaya-ku |
Label recordio | Deutsche Grammophon |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, cyfarwyddwr cerdd, cerddor |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Tad | Kaisaku Ozawa |
Priod | Kyoko Edo, Miki Irie |
Plant | Seira Ozawa, Yukiyoshi Ozawa |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Diwylliant, Gwobr Emmy, Praemium Imperiale, Urdd Cyfeillgarwch, Kikuchi Kan Prize, Anrhydedd y Kennedy Center, Person Teilwng mewn Diwylliant, Gwobr Asahi, Hans von Bülow Medal, Grammy Award for Best Opera Recording, International Besançon Competition for Young Conductors, Österreichischer Musiktheaterpreis, Officier de la Légion d'honneur, Global Citizen Awards |
Gwefan | http://www.ozawa-festival.com |
Chwaraeon |
Arweinydd cerddorol o Japan oedd Seiji Ozawa (小澤 征爾 Ozawa Seiji) (1 Medi 1935 – 6 Chwefror 2024).[1]
Cafodd Ozawa ei eni ym 1935, i rieni o Japan yn ninas Mukden yn Tsieina. Pan ddychwelodd ei deulu i Japan ym 1944, dechreuodd astudio piano gyda Noboru Toyomasu. Ar ôl graddio o Ysgol Uwchradd Iau Seijo ym 1950, torrodd Ozawa ddau fys mewn gêm rygbi. Daeth ei athro,[2] Hideo Saito, ag Ozawa i gyngerdd, a symudodd ei ffocws cerddorol i arwain yn y pen draw.[3] Aeth i Ysgol Gerdd Toho Gakuen, gan raddio ym 1957.[4][5]
Enillodd Ozawa y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Arweinwyr Cerddorfa yn Besançon, Ffrainc.[6] Ym 1960, yn fuan ar ôl iddo gyrraedd a'r canolfan cerddoriaeth Tanglewood yn yr UDA, enillodd Ozawa Wobr Koussevitzky am arweinydd myfyrwyr rhagorol. Aeth ef i'r Almaen i astudio arwain gyda'r arweinydd enwog o Awstria, Herbert von Karajan. Yn y modd felly y daliodd Ozawa sylw'r arweinydd amlwg Americanaidd Leonard Bernstein. Yna penododd Bernstein ef yn arweinydd cynorthwyol y New York Philharmonic, lle gwasanaethodd yn ystod tymhorau 1961–1962 a 1964–1965. Ozawa oedd yr unig arweinydd o hyd i astudio o dan Karajan a Bernstein.[7]
Bu farw Ozawa o fethiant y galon yn ei gartref yn Tokyo, yn 88 oed.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "指揮者の小澤征爾さん死去 「世界のオザワ」と評され活躍 88歳". NHK. 9 Chwefror 2024. Cyrchwyd 9 Chwefror 2024.
- ↑ "Seiji Ozawa" (yn Saesneg). Naxos. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Awst 2016. Cyrchwyd 17 Awst 2009.
- ↑ "Seiji Ozawa at the Kennedy Center Honors". YouTube.
- ↑ Reitman, Valerie (9 Mawrth 2000). "Crash Course in Passion". Los Angeles Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2020.
- ↑ Iuchi, Chiho (2 Rhagfyr 2017). "Master class: Conductor Seiji Ozawa passes on his knowledge to a new generation". The Japan Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2020.
- ↑ "Keeping Time at Tanglewood". Operanews.com. Cyrchwyd 6 Ionawr 2016.
- ↑ "Ozawa Seiji: The Self-Made Maestro". 10 Gorffennaf 2018.
- ↑ "World-renowned Japanese conductor Seiji Ozawa dies at 88". Kyodo News (yn Saesneg). 9 Chwefror 2024. Cyrchwyd 9 Chwefror 2024.