Neidio i'r cynnwys

Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 - Ras ffordd dynion

Oddi ar Wicipedia
Seiclo yng
Ngemau Olympaidd yr Haf 2008
Seiclo Ffordd
Ras ffordd   dynion   merched
Treial amser dynion merched
Seiclo Trac
Pursuit unigol dynion merched
Pursuit tîm dynion
Sbrint dynion merched
Sbrint tîm dynion
Ras bwyntiau dynion merched
Keirin dynion
Madison dynion
Beicio Mynydd
Traws-gwlad dynion merched
BMX
BMX dynion merched

Cynhaliwyd ras ffordd dynion Gemau Olympaidd yr Haf 2008 ar 9 Awst ar y Cwrs Seiclo Ffordd Trefol. Roedd y cwrs yn mynd heibio i dirnodau megis y Temple of Heaven, y Great Hall of the People, Sgwar Tiananmen a Stadiwm Cenedlaethol Beijing fel y teithiodd y ras i'r gogledd ar draws ganol ardal metropolaidd Beijing. Wedi teithio 78.8 km gweddol wastad i'r gogledd o ganol y ddinas, fe ddechreuodd y ras ar y saith cylched o'r cylchffordd terfynol 23.8 km o hyd i fyny ac i lawr y Badaling Pass, gan gynnwys rhannau mor serth a 10%.[1]

Enillwyd y ras gan y reidiwr Sbaeneg, Samuel Sánchez mewn chwech awr, 23 munud, a 49 eiliad. Ac fe gystadlodd grŵp o saith, a dorrodd i ffwrdd o flaen y peleton, y sbrint i'r safleoedd golynol.

Codwyd pryderion cyn cychwyn y gemau, am y bygythiad o lygredd yn chwaraeon dygner, ond ni godwyd unrhyw broblemau yn y ras hon.

Rhagolwg

[golygu | golygu cod]

Cyn agoriad y Gemau, roedd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn awyddus i chwarae i lawr unrhyw berygl a wynebai'r chwaraewyr gan lygredd; ond, fe ddywedodd y corff a oedd yn au trefnu y gall ail-raglennu amserlen y cystadleuthau dygner (megis y ras ffordd seiclo) fod yn bosibilrwydd os oedd lefelau'r llygredd yn rhy uchel.[2][3] Gall y chwaraewyr sy'n cymryd rhan yn y cystadleuthau rhain dreulio 20 gwaith gymaint o ocsigen i gymharu a person eisteddog.[2] Gall lefel uwch o lygredd yn yr awyr effeithio perfformiad yn negyddol, anafu neu gythruddo ysgyfaint chwaraewyr, neu waethygu cyflyrau anadlu, megis asthma.[2]

Fe ddangoswyd ffynonellau annibynnol y roedd lefelau llygredd yn uwch na'r lefel a ystyrir yn ddiogel gan y World Health Organization ar 9 Awst.[4][5] Er, fe aeth y ras ffordd ymlaen yn ôthe cycling event went ahead as scheduled with nol y rhaglen, heb unrhyw gwynion gan y reidwyr; ac er i 53 o'r 143 a ddechreuodd y ras dynnu allan, nid yw hyn yn anarferol, fe dynnodd hanner y reidwyr allan hanner ffordd drwy ras ffordd Gemau Olympaidd yr Haf 2004. Yn dilyn y ras, fe sylwebodd nifer o reidwyr ar yr amodau caled, yn arbennig y gwres (26 °C) a'r lleithder (90%), sy'n llawer uwch nac yn Ewrop, lle cynhelir y rhanfwyaf o rasus UCI ProTour; ond ni ddyfynwyd llygredd fel problem.[6][7]

Fe dynnodd pedwar reidiwr allan o'r rasdeuddydd cyn y ras. Nid oedd Damiano Cunego o'r Eidal wedi adfer o'r anafiadau a gafodd yn ystod Tour de France 2008, felly fe gymerodd Vincenzo Nibali ei le. Dywedwyd nad oedd enillydd y fedal arian yn Athen, Sergio Paulinho o Portiwgal mewn siap digon da i rasio. Yn dilyn diswyddiad Vladimir Gusev o Rwsia gan ei dîm proffesiynol, Astana, am fethu prawf cyffuriau mewnol, fe gymerwyd ei le yn y Gemau gan Denis Menchov, a fyddai'n cystadlu yn y ras ffordd a'r treial amser. Fe gafodd Michael Albasini o'r Swistir ddamwain tra'n ymarfer gan dorri pont ei ysgwydd y dydd Mawrth cyn y ras; nid oedd digon o amser i ganfod unrhyw un i gymryd ei le.[8]

Dechreuodd y ras am 11 y bore amser lleol (UTC 8) ac o fewn 3 cilometr o'r cychwyn, roedd Horacio Gallardo (Bolifia) a Patricio Almonacid (Tsile) wedi torri i ffwrdd o flawn y ras. Fe ddeliont fantais o 10 munud ar y pwynt uchaf dros gweddill y maes, ond ni gysidrwyd hwy yn wir fygwth am y medalau, ac yn wir ni orffennodd y ddau y ras. Heb unrhyw dîm yn fodlon i wthio'r rhediad, fe dorrodd grŵp o 26 dyn oddiar y blaen wedi 60 cilometr, gan gynnwys Carlos Sastre (Sbaen), Kim Kirchen (Luxembourg), Jens Voigt (yr Almaen), Roman Kreuziger (Gweriniaeth Tsiec) a Simon Gerrans (Awstralia). Yn fuan ar ôl iddyn basio'r linel gorffen ar y cyntaf o'r 7 cylched 24 cilometr, fe ddisgynwyd Gallardo gan Almonacid. A deilwyd yr arweinydd o Tsile gan y grŵp erlid (a oedd i lawr i 24 dyn erbyn hyn) ar y copa ar yr ail gylched.

O dan ysgogiad Sastre a Kreuziger yn arbennig, fe gynnyddodd y grŵp eu arwiniad ar flaen y maes i dros chwe munud hanner ffordd drwy'r ras. Fe aeth Aleksandr Kuschynski (Belarws) a Ruslan Pidgornyy (Wcrain) yn glir o flaen y grŵp arweiniol gan ennill mantais o 1 munud a 40 eiliad erbyn cychwyn y bumed cylched. Ar ddiwedd y pumed cylched fe ddaeth yr holl faes yn ôl at ei gilydd ar ôl i'r Eidalwyr osod cryn rhediad i gefnogi ymdrechion Paolo Bettini. Ar gychwyn y cylched olaf roedd grŵp o 53 o reidwyr gyda'i gilydd yn erlid yr arwinydd unig ar y ffordd, Christian Pfannberger (Awstria), ond fe aeth pum reidiwr yn glir o flaen y grŵp hwn, sef Samuel Sánchez (Sbaen), Michael Rogers (Awstralia), Davide Rebellin (yr Eidal), Andy Schleck (Luxembourg), a Alexandr Kolobnev (Rwsia), gan ddal Pfannberger gyda 15 cilometr i fynd, gan ffurfio bygythiad amlwg ar gyfer y podiwm. Fe aeth Sánchez, Rebellin, a Schleck yn glir yn bellach eto, gan ennill 15 eiliad gyda 7 cilometr i fynd. Gyda 2 km yn weddill fe ymosododd Fabian Cancellara (y Swistir) oddiar blaen y prif faes a gyda'r ddau a oedd wedi cael eu disgyn gan y tri arweiniwr, Kolobnev a Rogers, fe bontiodd y bwlch i'r arweinwyr, felly roedd chwe reidiwr yn cystadlu'r sbrint terfynol. Fe gipiodd Sánchez y fedal aur, Rebellin yr arian, a Cancellara yr efydd.[9]

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]
Safle Reidiwr Amser
Baner Sbaen Samuel Sánchez 6 awr 23′ 49″
Baner Yr Eidal Davide Rebellin 6 awr 23′ 49″
Baner Y Swistir Fabian Cancellara 6 awr 23′ 49″
4 Baner Rwsia Alexandr Kolobnev 6 awr 23′ 49″
5 Baner Luxembourg Andy Schleck 6 awr 23′ 49″
6 Baner Awstralia Michael Rogers 6 awr 23′ 49″
7 Baner Colombia Santiago Botero 6 awr 24′ 01″
8 Baner Gwlad Belg Mario Aerts 6 awr 24′ 01″
9 Baner Canada Michael Barry 6 awr 24′ 05″
10 Baner Yr Iseldiroedd Robert Gesink 6 awr 24′ 07″

Heb orffen

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg)  Road Cycling Day 1 Preview: Great Wall course serves up cycling vertical challenge. Beijing 2008 official website (8 Awst 2008).
  2. 2.0 2.1 2.2  Beijing pollution: Facts and figures. BBC News (8 Awst 2008).
  3.  Bellis prepares for Beijing start. BBC News (6 Awst 2008).
  4.  Sensing Air Quality at the Olympics. AP.
  5.  In pictures: Beijing pollution-watch. BBC News (6 Awst 2008).
  6.  Associated Press (9 Awst 2008). U.S. cyclists Zabriskie, McCartney pull out of Olympic road race. Sports Illustrated.
  7.  Sanchez clinches road race gold. BBC Sport (9 Awst 2008).
  8.  Four cyclists scratched from road race. The Official Website of the Beijing 2008 Olympic Games (9 Awst 2008).
  9.  Sanchez outsprints Rebellin for gold. The Official Website of the Beijing 2008 Olympic Games (9 Awst 2008).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]